Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Chun Xu wedi ei ganfod yn euog o lofruddio Wenjing Lin, merch 16 oed, a cheisio llofruddio ei llystad, Yongquan Jiang.
Mae Chun Xu wedi ei ganfod yn euog o lofruddio Wenjing Lin, merch 16 oed, a cheisio llofruddio ei llystad, Yongquan Jiang.
Cafodd y dyn 32 oed, a oedd yn byw ym Merthyr Tudful, ei ganfod yn euog yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 9 Tachwedd (2021)
Cafodd y troseddau eu cyflawni yn y Blue Sky Takeaway ar Stryd Baglan, Treorci ddydd Gwener, 5 Mawrth 2021.
Roedd Xu wedi ymweld â theulu'r dioddefwr ar 4 Mawrth a threulio'r noson gyda nhw. Clywodd y llys fod Xu yn ceisio dial am ddyled arian yr oedd arno i'r teulu. Roedd wedi gamblo arian a roddwyd iddo gan fam Wenjing Lin yr oedd i fod i anfon adref at gyfaill cyffredin yn Tsieina.
Y diwrnod canlynol, ar 5 Mawrth, llofruddiodd Wenjing drwy ei thagu a'i gadael yn gorwedd ar y llawr ger cownter y siop.
Yna, denodd ei llystad i'r islawr lle y trywanodd ef sawl gwaith â dwy gyllell cyn trywanu ei hun.
Profodd ymchwiliad Heddlu De Cymru fod gweithredoedd Xu yn rhagfwriadol pan atafaelwyd ei ffôn. Ar y ffôn, gwelwyd ei fod wedi defnyddio peiriannau chwilio ar y rhyngrwyd i ddarganfod a fyddai tân yn dinistrio olion bysedd ychydig oriau cyn yr ymosodiadau. Clywodd y llys hefyd fod Xu wedi mynd â chyllell gydag ef i'r safle.
Roedd Chun Xu wedi pledio'n ddieuog i lofruddio, ymgais i lofruddio a chlwyfo'n fwriadol, ond plediodd yn euog i ddynladdiad a chlwyfo anghyfreithlon.
Ond, cafodd ei gyhuddo o lofruddio ac ymgais i lofruddio gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
Cafodd y rheithgor ef yn euog o bob cyhuddiad yn unfrydol, ac ar ôl hynny dywedodd y barnwr wrth y diffynnydd ei fod yn wynebu carchar am oes pan gaiff ei ddedfrydu ddydd Gwener (12 Tachwedd).
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis, yr Uwch Swyddog Ymchwilio:
“Ar ran Heddlu De Cymru, rwy'n falch bod y treial wedi arwain at sicrhau euogfarn lwyddiannus yn achos Chun Xu, a hynny am lofruddio Wenjing ac am ymgais i lofruddio Yongquan Jiang. Dangosodd y dystiolaeth a gasglwyd ac a glywyd yn yr achos hwn fod hon yn llofruddiaeth ragfwriadol a didrugaredd o ferch 16 oed ddiniwed, clyfar, talentog a phoblogaidd, ac ymosodiad difrifol ar ei llystad gydag ymgais amlwg i'w ladd.
“Yn ystod ein hymchwiliad, daeth yn amlwg pa mor boblogaidd oedd Wenjing ymhlith pawb a oedd yn ei hadnabod. Achosodd y digwyddiad hwn syndod yng nghymunedau agos Treorci a Threherbert ac mae wedi bod yn ddinistriol i deulu a ffrindiau Wenjing.
Rwy'n meddwl yn bennaf heddiw am fam Wenjing sydd wedi colli ei merch gariadus, ac rwy'n gwybod mai hi oedd ei ffrind agosaf hefyd. Gobeithio y bydd yr euogfarn hon yn helpu mewn rhyw ffordd, ond rwyf hefyd yn gwybod y bydd y dyddiau, misoedd a'r blynyddoedd i ddod yn hynod o anodd.
“Hoffwn ddiolch i'r gymuned am ei chefnogaeth a'i chymorth, ar adeg y digwyddiad ac yn ystod yr ymchwiliad dilynol. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i ddiwydrwydd Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Cwnsleriaid, a'r swyddogion a'r staff yn fy nhîm ymchwilio am y proffesiynoldeb rhagorol a'r dycnwch a ddangoswyd i gael cyfiawnder yn yr achos hwn."
Wenjing Lin.