Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:36 22/11/2021
Brynhawn dydd Gwener, 19 Tachwedd, mynychodd swyddogion yn dilyn derbyn adroddiad bod menyw wedi mynd at fam a'i phlentyn bach yng nghanol dinas Caerdydd.
Mae’r fenyw wedi cael ei hadnabod, ac er ein bod yn cydnabod bod ei hymddygiad wedi codi pryder, ni chyflawnwyd trosedd.
Mae’r fam wedi cadarnhau na fu unrhyw ymgais i achosi niwed i'w phlentyn nac i fynd â'i phlentyn.
Rydym yn ymwybodol o adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol o ddigwyddiadau tebyg.
Rydym yn ddiolchgar bod y mater hwn wedi cael ei gofnodi ac yn dymuno sicrhau'r gymuned bod mesurau diogelu priodol yn cael eu cymryd.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd a'r sector gwirfoddol i gefnogi pobl sy'n agored i niwed.