Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar 4 Hydref 2021, cafwyd Islwyn Gary Watkins, o Sain Tathan, yn euog o ddau achos o drais yn Llys y Goron Caerdydd.
Ymddangosodd y gŵr 46 oed ger bron yr un llys ddydd Gwener, 5 Tachwedd, ac fe'i dedfrydwyd i naw mlynedd o garchar.
Cafodd Watkins, sy'n wreiddiol o'r Fenni, hefyd ei wneud yn destun gorchymyn atal amhenodol.
Darllenwyd y datganiad canlynol i'r llys ar ran y dioddefwr:
“Nid wyf yn adnabod y person sy'n ymddangos yn fy natganiad; rwy'n gweld merch sy'n amlwg yn llawn gofid, ac sydd wedi llwyr ymlâdd yn emosiynol ac yn feddyliol, ond a lwyddodd rywffordd i ddod o hyd i'r dewrder a'r geiriau i roi tystiolaeth er mwyn dwyn cyhuddiad. Bydd yn rhaid i mi fyw gweddill fy mywyd gan wybod fy mod wedi cael fy nhreisio.”
Clywodd y llys y bu oedi â'r achos o ganlyniad i ymchwiliad hir, oedi yn y system llysoedd a phandemig y coronafeirws.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Andrew Boffy, y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos:
“Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ac mae’r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad.”
“Rydym yn cymryd pob ymosodiad rhywiol y rhoddir gwybod i ni amdano o ddifrif ac yn annog dioddefwyr i gysylltu â'r heddlu, ni waeth pryd y digwyddodd, gan deimlo'n hyderus y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas ac yr ymchwilir yn llawn i'w honiad."
Ewch i'n gwefan er mwyn cael gwybod sut mae Heddlu De Cymru yn cefnogi dioddefwyr trais ac ymosodiadau rhywiol gyda chymorth gan ein sefydliadau partner a grwpiau elusennol.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.