Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pump o bobl wedi cael eu cyhuddo o droseddau sy'n ymwneud â chyffuriau fel rhan o ymgyrch gan Uned Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol Heddlu De Cymru.
Drwy gydol yr wythnos hon, gweithredodd swyddogion nifer o warantau a gynlluniwyd ymlaen llaw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Port Talbot, Swydd Gaerhirfryn a Swydd Rydychen fel rhan o Ymgyrch Wizard.
Arestiwyd pump o bobl, yn ychwanegol at ddau unigolyn sydd eisoes wedi cael eu cyhuddo o droseddau sy'n ymwneud â chyffuriau fel rhan o'r ymgyrch bresennol.
Mae'r unigolion canlynol bellach wedi'u cyhuddo o droseddau sy'n ymwneud â chyffuriau:
Cam 1 – Awst 2021
Cam 2 – Tachwedd 2021
Yn ystod y trydydd cam o'r ymgyrch, arestiwyd dyn 41 oed o Rydychen a dyn 42 oed o Swydd Gaerhirfryn ac maent yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae'r pump wedi cael eu cyhuddo o amrywiol droseddau, gan gynnwys cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Russell Jenkins:
“Mae Ymgyrch Wizard wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma, ar ôl i swyddogion atafaelu cyffuriau, arian parod ac eiddo yn ystod y cam gorfodi.
“Yn ystod y camau gorfodi, cafwyd hyd i £49,000 mewn arian parod, sawl dyfais symudol sydd wedi bod yn allweddol i'r ymchwiliad, taser wedi'i guddio fel torsh ynghyd â chetamin a chanabis fel rhan o'r ymgyrch.
"Nid oes lle i gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymdeithas, a byddwn yn parhau i gydweithio i dargedu'r rhai hynny y mae eu gweithgareddau troseddol yn amharu ar fywydau cymunedau de Cymru.
“Rydym yn ymrwymedig i darfu ar grwpiau troseddu cyfundrefnol a'u chwalu, gan ddod â phobl gerbron y llys a chael gwared ar gyffuriau o'n strydoedd."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau yn y gymuned ffonio'r heddlu ar 101 neu Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555111. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.