Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r anhrefn dreisgar a ddigwyddodd yn ardal Mayhill yn Abertawe neithiwr (dydd Iau 20 Mai).
Ymatebodd yr heddlu i'r digwyddiad ar unwaith ac anfonwyd swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant i ddelio â digwyddiadau trefn gyhoeddus i'r safle.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jenny Gilmer: “Mae'r rhain yn olygfeydd nad ydym yn disgwyl eu gweld yn ein cymunedau ac ni ddylai ein swyddogion ddisgwyl gorfod wynebu sefyllfaoedd fel hyn pan fyddant yn mynd i'r gwaith ar ddechrau eu sifft.
“Hoffwn roi sicrwydd i drigolion Mayhill y bydd mwy o heddlu yn plismona'r ardal drwy gydol y penwythnos.
“Os bydd y rhai a oedd yn gysylltiedig â'r anhrefn yn dewis dychwelyd a bygwth diogelwch y cyhoedd yng nghymuned Mayhill eto, cymerir camau gweithredu cadarn yn eu herbyn.
“Ein ffocws nawr yw ymchwilio i'r digwyddiad gwarthus hwn yn llawn. Byddwn yn defnyddio deunydd teledu cylch cyfyng a'r cyfryngau cymdeithasol i'n helpu i nodi ac arestio'r rhai a oedd yn gyfrifol.
“Roedd lefel y trais yn erbyn y gwasanaethau brys, a'r difrod a wnaed i adeiladau a cherbydau, yn gwbl annerbyniol.
“Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cymorth ac rwy'n apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo i gysylltu â ni a darparu'r deunydd hwnnw.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â ffotograffau neu ddeunydd fideo eu cyflwyno yma: Porth Cyhoeddus (mipp.police.uk)
Gallwch hefyd gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth arall drwy'r ffyrdd canlynol:
https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101