Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae arfau a chyffuriau gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael eu hatafaelu dros y 12 mis diwethaf gan un o dimau arbenigol Heddlu De Cymru drwy amharu ar droseddau sy'n ymwneud â chyllyll a thrais difrifol.
Mae Tîm cudd Ymgyrch Sceptre, sy'n gweithredu ar draws yr heddlu, hefyd wedi atafaelu bron hanner miliwn o bunnoedd mewn arian parod allan o ddwylo'r rheini sy'n ymwneud â thrais a chamfanteisio troseddol.
Rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021, mae Tîm Ymgyrch Sceptre yng Nghaerdydd ac Abertawe wedi:
Dywedodd Uwch-arolygydd Esyr Jones, arweinydd yr heddlu ar gyfer mynd i'r afael â throseddau difrifol:
“Mae Ymgyrch Sceptre yn olrhain y rheini sy'n ymwneud â thrais difrifol a throseddau cysylltiedig yn ddiflino, er mwyn diogelu'r rheini y camfanteisir arnynt ac i gadw ein strydoedd yn ddiogel.
“Mae De Cymru yn lle diogel i fyw, i weithio ynddo ac i ymweld ag ef, ond ni fyddwn byth yn llaesu dwylo. Mae mynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â chyllyll a thrais difrifol yn un o brif flaenoriaethau Heddlu De Cymru.
“Ac er ein bod yn gwybod y gall fod yn anodd codi eich llais os ydych yn meddwl bod rhywun yn cario cyllell, drwy wneud hynny, gallwch helpu i sicrhau na ellir defnyddio'r arf hwnnw i achosi niwed difrifol, neu waeth. Yn y pen draw, mae'n golygu y gallech achub bywyd.”
I gysylltu â ni, ewch i https://bit.ly/HDCRiportio, anfonwch neges breifat atom ar Facebook neu Twitter, neu e-bostiwch [email protected].
Fel arall, gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw drwy fynd i https://crimestoppers-uk.org/ neu ffonio 0800 555 111.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Mae ymateb y gymdogaeth, ymgyrchoedd arbenigol, a thimau eraill yr heddlu yn ategu gwaith Tîm Ymgyrch Sceptre.