Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:08 22/05/2021
Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad ag anhrefn dreisgar yn ardal Mayhill nos Iau, 20 Mai.
Mae pedwar dyn lleol 36, 20, 18 ac 16 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o drais anghyfreithlon ac maent yn y ddalfa o hyd.
Ni chafwyd rhagor o achosion o drais nac anhrefn ers nos Iau a bydd mwy o batrolau'n parhau dros y penwythnos.
Hoffai swyddogion ddiolch i'r trigolion hynny sydd eisoes wedi cysylltu â'r heddlu i roi datganiadau tyst a deunydd fideo.
Fodd bynnag, maent hefyd yn apelio am ragor o wybodaeth.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Morgan, sy'n arwain ymchwiliad Heddlu De Cymru:
“Roedd llawer o drigolion yn bresennol ar adeg yr helynt ac mae'n siŵr y byddant yn gwybod pwy oedd y bobl a oedd yn achosi difrod ac yn bygwth trais.
“Rwy'n annog y cyhoedd i beidio ag amddiffyn y rhai a ddangosodd y fath amarch at gymuned Mayhill, ac i roi enwau'r unigolion sydd i'w gweld yn y lluniau yn y cyfryngau cymdeithasol i ni.
“Mae gennym dîm dynodedig o dditectifs sy'n cynnal ymholiadau helaeth er mwyn adnabod yr unigolion dan sylw ac rydym yn barod i weithredu ar sail unrhyw wybodaeth a ddaw i law.
“Bydd ditectifs a swyddogion mewn lifrai yn bresennol ac yn weladwy yn y gymuned dros y diwrnodau a'r wythnosau nesaf, ac rydym yn disgwyl y caiff mwy o bobl eu harestio.
“Gall unrhyw rai sydd am fynd at yr heddlu o'u gwirfodd wneud hynny yng Ngorsaf Heddlu Canol Abertawe.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â ffotograffau neu ddeunydd fideo eu cyflwyno yma: Porth Cyhoeddus (mipp.police.uk)
Gallwch hefyd gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth arall drwy'r ffyrdd canlynol:
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: PublicSe[email protected]
Ffôn: 101