Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae patrolau ychwanegol yr heddlu yn parhau i gadw ardaloedd arfordirol Caerdydd a Bro Morgannwg yn ddiogel, wrth i Ymgyrch Elstree symud i'r ail fis.
Mae Ymgyrch Elstree, a lansiwyd ym mis Mai, yn cynnwys lleoliadau allweddol fel Bae Caerdydd, Penarth ac Ynys y Barri, yn ogystal â'r Arfordir Treftadaeth rhwng Trwyn y Rhws ac Aberogwr.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yn cael effaith niweidiol ar ein cymunedau, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i fynd ar batrôl yn yr ardaloedd allweddol hyn er mwyn atal hynny.
Unwaith eto bydd hysbysiadau Adran 35 mewn grym y penwythnos hwn i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Ynys y Barri, Aberogwr, a Bae Caerdydd.
Mae hysbysiadau Adran 35 yn rhoi'r pŵer i swyddogion symud pobl ymlaen o ardal os byddant yn ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol.
Ni chafwyd unrhyw alwadau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y lleoliadau allweddol dros benwythnos Gŵyl y Banc, ond codwyd pryderon mewn perthynas â phroblemau o ran parcio, yn enwedig yn Ynys y Barri ac Aberogwr.
Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o'r gwahanol awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Bella Rees:
"Mae'n ddealladwy bod pawb yn awyddus i fanteisio i'r eithaf ar y tywydd braf ac ymweld â'n hardaloedd arfordirol prydferth, ond byddem yn gofyn i ymwelwyr fod yn ystyriol wrth barcio a sicrhau bod digon o le i gerbydau brys fynd heibio.
“Mae injanau tân yn enwedig yn fwy na cheir, ac mae angen mwy o le arnynt i droi corneli, felly ceisiwch osgoi parcio'n rhy agos at gyffyrdd.
"Mae pob eiliad yn cyfrif pan fydd y gwasanaethau brys yn ymateb i alwad 999 felly parciwch yn gyfrifol."