Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymdrechion Heddlu De Cymru i gadw Aberogwr yn lle diogel ac ystyriol o deuluoedd i ymweld ag ef yn ystod yr haf yn parhau gydag Ymgyrch Elstree.
Anfonwyd fan camera teledu cylch cyfyng yr heddlu i'r traeth y penwythnos hwn er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae hysbysiad Adran 35 hefyd ar waith i roi'r pŵer i swyddogion symud pobl ymlaen os byddant yn ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol.
Caiff ymwelwyr eu hatgoffa i yfed yn gyfrifol, parcio'n gyfreithlon a chadw at y rheoliadau.
Mae Ymgyrch Elstree yn cynnwys lleoliadau allweddol gan gynnwys Bae Caerdydd, Penarth ac Ynys y Barri, yn ogystal â'r Arfordir Treftadaeth rhwng Trwyn y Rhws ac Aberogwr.
Cafodd ei lansio ym mis Mai a bydd yn rhedeg tan fis Medi.
Mae ein cydweithwyr yn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi sylwi ar gynnydd diweddar yn nifer yr ymwelwyr sy'n teithio ar y trên i'r arfordir.
Rydym yn annog holl ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus i barchu'r mesurau sydd ar waith i'ch cadw'n ddiogel, a dangos parch tuag at y staff.
Dywedodd y Prif Arolygydd Bella Rees o Heddlu De Cymru: “Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid, sy'n cynnwys yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig dros yr haf i fynd ar batrôl mewn ardaloedd allweddol er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddoldeb, a chadw'r gymuned yn ddiogel.
"Wrth i wyliau haf yr ysgolion brysur agosáu, rydym yn disgwyl i'n hardaloedd arfordirol brysuro gyda miloedd o ymwelwyr yn mynd i wersyllfeydd lleol.
“Diolch byth, mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n ymweld â'n harfordir prydferth yn ymddwyn yn briodol ac yn unol â'r rheoliadau.
"Ond ni fyddwn yn goddef ymddygiad y nifer bach o bobl sy'n yfed gormod o alcohol ac yn amharu ar allu dinasyddion sy'n parchu'r gyfraith i fwynhau eu hunain mewn heddwch.”
Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld fan camera teledu cylch cyfyng yr heddlu.
Hyd yn hyn, mae wedi bod yn effeithiol wrth atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynnal awyrgylch ystyriol o deuluoedd ac ar adegau, wedi achub bywydau o bosibl. Sylwodd swyddogion a oedd yn monitro teledu cylch cyfyng yn Ynys y Barri ar dri phlentyn ifanc a oedd yn mynd allan gyda'r llif ar welyau gwynt. Gwnaethant roi gwybod i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a ddaeth â'r plant ifanc yn ôl i fan diogel.
Er bod y penwythnosau diwethaf wedi bod yn dawel ar y cyfan, mae hysbysiadau Adran 35 yn Ynys y Barri ac Aberogwr yn rhoi'r pŵer i swyddogion symud pobl ymlaen os byddant yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Caiff ymwelwyr eu hatgoffa hefyd y cymerir camau gorfodi yn erbyn y bobl hynny nad ydynt wedi parcio eu cerbydau'n gyfreithlon.