Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymdrechion Heddlu De Cymru i gadw Ynys y Barri yn lle diogel ac ystyriol o deuluoedd i ymweld ag ef yn parhau gydag Ymgyrch Elstree.
Yn ystod un penwythnos, gwnaeth y tîm plismona:
• Aduno 13 o blant coll â'u rhieni.
• Stopio a chwilio 33 o bobl, gan atafaelu canabis.
• Rhoi nifer o hysbysiadau gorfodi parcio.
• Arestio a chyhuddo dyn 67 oed o ddinoethi anweddus.
Mae Ymgyrch Elstree yn cynnwys lleoliadau allweddol gan gynnwys Bae Caerdydd, Penarth ac Ynys y Barri, yn ogystal â'r Arfordir Treftadaeth rhwng Trwyn y Rhws ac Aberogwr.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid dros yr haf i fynd ar batrôl yn yr ardaloedd allweddol hyn er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddoldeb, a chadw'r gymuned yn ddiogel.
Rhai enghreifftiau diweddar o waith partneriaeth:
• Sylwodd swyddogion a oedd yn monitro teledu cylch cyfyng yn Ynys y Barri ar dri phlentyn ifanc a oedd yn mynd allan gyda'r llif ar welyau gwynt. Gwnaethant roi gwybod i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a ddaeth â'r plant ifanc yn ôl i fan diogel.
• Rhoddodd swyddogion yr heddlu yn Ynys y Barri, Southerndown ac Aberogwr 32 o docynnau rhwystr parcio, a rhoddodd staff cyngor Bro Morgannwg, a oedd yn gweithio mewn partneriaeth â'r swyddogion, tua 60 o docynnau ychwanegol.
Mae parcio trafferthus yn parhau i fod yn destun pryder.
Dywedodd y Prif Arolygydd Bella Rees o Heddlu De Cymru: “Mae'n ddealladwy bod pawb yn awyddus i fanteisio i'r eithaf ar y tywydd braf ac ymweld â'n hardaloedd arfordirol prydferth, ond byddem yn gofyn i ymwelwyr fod yn ystyriol wrth barcio a sicrhau bod digon o le i gerbydau brys fynd heibio.
“Mae injanau tân yn enwedig yn fwy na cheir, ac mae angen mwy o le arnynt i droi corneli, felly ceisiwch osgoi parcio'n rhy agos at gyffyrdd.
“Mae pob eiliad yn cyfrif pan fydd y gwasanaethau brys yn ymateb i alwad 999 felly parciwch yn gyfrifol ac yn gyfreithiol.”
Mae'r penwythnosau diwethaf wedi bod yn dawel o ran problemau ar y cyfan, ond mae hysbysiadau Adran 35 yn Ynys y Barri ac Aberogwr yn rhoi'r pŵer i swyddogion symud pobl ymlaen os byddant yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Lansiwyd Ymgyrch Elstree ym mis Mai a bydd yn rhedeg tan fis Medi.