Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall rhieni ‘dagio eu plant bach’ yn Ynys y Barri yr haf hwn, diolch i Ymgyrch Elstree - sef ymgyrch amlasiantaeth gyda'r nod o gadw'r ardal yn ddiogel.
Daw'r cynllun bandiau arddwrn i blant ar ôl i swyddogion yr heddlu aduno 13 o blant â'u rhieni yn ystod un penwythnos ar yr ynys.
Mae'r band lliwgar yn cynnwys lle ar gyfer rhif ffôn symudol neu fanylion perthnasol eraill, fel bod modd cysylltu â rhiant neu warcheidwad plentyn ar unwaith os bydd yn cael ei wahanu oddi wrtho a bod rhywun yn dod o hyd iddo.
Dywedodd y Prif Arolygydd Bella Rees o Heddlu De Cymru: “Fel y gŵyr pawb, mae Ynys y Barri yn boblogaidd iawn ymhlith teuluoedd yn ystod misoedd yr had, a bydd yr ymgyrch hon yn hyrwyddo diogelwch ac yn helpu i leihau'r gofid a achosir gan bobl ifanc yn mynd ar goll.
“Byddwn yn annog pob ymwelydd i ddefnyddio'r bandiau arddwrn hyn ar gyfer eu plant”
Mae'r bandiau ar gael gan y rhan fwyaf o fusnesau lleol fel rhan o Ymgyrch Elstree, sy'n ceisio cadw ardaloedd arfordirol Caerdydd a Bro Morgannwg yn ddiogel ac yn ystyriol o deuluoedd yr haf hwn.
Mae Ymgyrch Elstree yn cynnwys lleoliadau allweddol gan gynnwys Bae Caerdydd, Penarth ac Ynys y Barri, yn ogystal â'r Arfordir Treftadaeth rhwng Trwyn y Rhws ac Aberogwr.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid dros yr haf i fynd ar batrôl yn yr ardaloedd allweddol hyn er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddoldeb, a chadw'r gymuned yn ddiogel.
Mae'r penwythnosau diwethaf wedi bod yn dawel o ran problemau ar y cyfan, ond mae hysbysiadau Adran 35 yn Ynys y Barri ac Aberogwr yn rhoi'r pŵer i swyddogion symud pobl ymlaen os byddant yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Wrth wylio tîm Cymru yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Euro 2020, caiff cefnogwyr eu hannog i yfed llai a mwynhau mwy.
Dywedodd y Prif Arolygydd Bella Rees o Heddlu De Cymru: “Rydym yn annog cefnogwyr i yfed yn gyfrifol a mwynhau'r gêm ddydd Sadwrn.
“Mae cyfyngiadau'r Coronafeirws yn parhau mewn safleoedd trwyddedig, felly dylech barchu'r mesurau hyn sydd ar waith i'ch cadw'n ddiogel, a dangos parch tuag at y staff.
Caiff ymwelwyr eu hatgoffa hefyd y cymerir camau gorfodi yn erbyn y bobl hynny nad ydynt wedi parcio eu cerbydau'n gyfreithlon.
Lansiwyd Ymgyrch Elstree ym mis Mai a bydd yn rhedeg tan fis Medi.