Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyda Phencampwriaeth Ewrop ar fin dechrau, mae pawb yn edrych ymlaen yn arw at y pêl-droed.
Bydd y twrnamaint hwn yn wahanol iawn i unrhyw dwrnamaint a welwyd o'r blaen o ganlyniad i bandemig COVID-19, sy'n golygu bod cefnogwyr Cymru yn cael eu cynghori i aros gartref.
I'r bobl a benderfynodd deithio, mae swyddogion o Gymru wedi mynd i'r gwledydd lle y cynhelir y gemau i gydgysylltu â heddluoedd yno.
Yn ystod pencampwriaethau Ewrop yn y gorffennol, bu perfformiad tîm Cymru yn ysbrydoliaeth i'r cyhoedd. Eleni, mae'r heddlu yn atgoffa pobl sydd am wylio'r gemau mewn tafarndai a chlybiau i yfed yn gyfrifol a chadw'n ddiogel.
Y neges i gefnogwyr Cymru gartref a thramor yw: Un Tîm, Un Nod, Cadwch yn Ddiogel.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason James, sy'n arwain y criw o heddweision o heddluoedd De Cymru, Gogledd Cymru a Gwent:
“Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi ennill enw da iawn wrth deithio dramor, ac rydym yn disgwyl y byddant yn parhau i ymddwyn yn y ffordd ragorol hon yn ystod pencampwriaeth Ewrop yr haf hwn.
“Mae'r cefnogwyr wedi cael eu cynghori i aros gartref, felly bydd llai o bobl o lawer yn teithio eleni o gymharu â'r twrnamaint a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2016. Fodd bynnag, bydd ein swyddogion yno i ymgysylltu â heddluoedd lleol a siarad â chefnogwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn gallu mwynhau'r twrnamaint.”
Cynhelir dwy gêm gyntaf Cymru yn Baku, Azerbaijan, cyn i’r tîm symud i Rufain yn yr Eidal. Os aiff Cymru drwy'r cam grwpiau, cynhelir gemau'r cam nesaf mewn dinasoedd eraill ledled Ewrop.
Mae unigolion sydd wedi achosi helynt mewn gemau pêl-droed yn y gorffennol ac sydd bellach yn destun Gorchmynion Gwahardd Pêl-droed wedi ildio eu pasbortau, ac nid oes modd iddynt deithio dramor.
I'r bobl hynny a fydd yn cefnogi Cymru gartref, bydd cynllun plismona ar waith i wneud yn siŵr bod cefnogwyr yn ddiogel mewn trefi a dinasoedd ledled De Cymru.
Dywedodd yr Arolygydd Jeff Burton:
“Bydd pobl yn awyddus i fynd allan a mwynhau'r twrnamaint a gwylio'r gemau mewn tafarndai a chlybiau, a'n nod yw eu cadw'n ddiogel.
“Bydd mwy o swyddogion yr heddlu ar batrôl gennym yng nghanol trefi a dinasoedd, a gofynnwn i gefnogwyr yfed yn gyfrifol a mwynhau'r twrnamaint. Mae cyfyngiadau'r Coronafeirws yn parhau yn eu lle mewn safleoedd trwyddedig, felly dylech barchu'r mesurau sydd ar waith ynddynt i'ch cadw'n ddiogel, a dangos parch ac amynedd tuag at y staff yn ogystal â'r bobl hynny a allai fod heb gael cyfle i fynd allan a chymdeithasu ers cryn amser o ganlyniad i'r pandemig.”
Cysylltiedig: