Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:31 22/06/2021
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cadarnhau nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd fod gwn Taser wedi cael ei ddefnyddio.
Crynodeb o ddatganiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu:
“Rydym yn ymwybodol o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn honni bod gwn Taser wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y digwyddiad.
"Er na chynhaliwyd archwiliad o ynnau Taser eto, o'n dadansoddiad o'r safle a'r dystiolaeth fideo a welwyd hyd yn hyn, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd bod gwn Taser wedi cael ei ddefnyddio.”
Mae adroddiad llawn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gael yma:
https://policeconduct.gov.uk/news/investigation-death-man-cardiff
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg hon, ac yn estyn ein cydymdeimlad iddynt.