Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
01:20 07/06/2021
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd difrifol a ddigwyddodd ar yr M4 nos Sul (6 Mehefin).
Cafodd swyddogion eu galw i'r gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd gerbydau traffordd yr M4 tua'r gorllewin, ger cyffordd 32 ar gyfer Coryton, Caerdydd, ychydig ar ôl 6.45pm.
Cafodd dyn 28 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau difrifol ar ôl i Vauxhall Astra coch wrthdaro â'r llain ganol.
Cafodd dyn 27 oed ei arestio yn y fan a'r lle ar amheuaeth o yrru'n beryglus. Mae yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.
Hoffai swyddogion siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu unrhyw un a welodd y car yn cael ei yrru cyn hynny. Anogir unrhyw un â deunydd fideo dashfwrdd neu ffôn symudol i gysylltu â'r heddlu hefyd.
Dyfynnwch rif digwyddiad 2100197846 mewn unrhyw ohebiaeth am y gwrthdrawiad.
Caewyd rhan o'r ffordd i'r ddau gyfeiriad am sawl awr wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliadau cychwynnol, a hoffwn ddiolch i fodurwyr am eu hamynedd a'u cydweithrediad.
Er mwyn cysylltu â ni:
Ewch i https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
E-bostiwch: [email protected]
Ffoniwch: 101