Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd a ddigwyddodd am tua 6.35pm ddydd Sadwrn, 5 Mehefin yn Lôn Roger, Trelales, Pen-y-bont ar Ogwr.
Credir bod Volkswagen Golf arian, a oedd wedi bod yn teithio ar hyn Lôn Roger i gyfeiriad cyffredinol Cefn Cribwr, wedi gadael y ffordd cyn rholio i lawr llethr.
Bu farw menyw, a oedd yn deithiwr yn y cerbyd, yn y fan a'r lle.
Cafodd dau ddyn, 32 oed a 37 oed, eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus. Mae'r ddau ohonynt yn nalfa'r heddlu o hyd.
Hoffai'r swyddogion sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, unrhyw un a welodd y car yn cael ei yrru yn yr eiliadau cyn hynny, neu unrhyw un a stopiodd ar y safle i roi cymorth.
Maent hefyd yn apelio am unrhyw ddeunydd fideo dashfwrdd, ffôn symudol neu deledu cylch cyfyng a allai helpu'r ymchwiliad.
I gysylltu â ni:
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter E-bostiwch: [email protected]
Ffoniwch: 101
Dyfynnwch rif digwyddiad 2100196633 mewn unrhyw ohebiaeth.