Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llongyfarchiadau mawr i Peter Thomas, Cynghorydd yr Heddlu ar Iechyd Meddwl, a gafodd MBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am wasanaethau i blismona.
Mae Peter wedi bod yn ei rôl bresennol ers 2009, ar ôl gwasanaethu fel swyddog yr heddlu am 30 mlynedd cyn hynny. Dywedodd: “Rwy'n ddiolchgar iawn, ac yn hynod falch o dderbyn y wobr hon ar ran Heddlu De Cymru.”
Sefydlwyd y gwasanaeth brysbennu iechyd meddwl yn 2019. Mae'n golygu bod ymarferwyr nyrsio sy'n gweithio yn ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yn gallu darparu ymyriadau priodol pan fyddwn yn dod i gysylltiad gyntaf â phobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl neu ofid.
Mae ymgysylltu â'r tîm brysbennu yn gwella hyder ymhlith swyddogion, gan eu helpu i ddefnyddio strategaethau i reoli pryderon iechyd meddwl, ac yn rhoi'r unigolyn wrth wraidd ein gwasanaeth, gan sicrhau y gellir ei ddiogelu'n briodol.
Dywedodd Peter: “Mae wedi bod yn llwyddiant i ni. Mae'n wasanaeth heb ei ail, ac mae wedi gwneud popeth roedden ni am iddo ei wneud, a mwy.”
Eglurodd Peter fod digwyddiadau penodol yn ystod ei yrfa yn yr heddlu wedi aros yn ei feddwl, gan gynnwys bod yn un o'r swyddogion cyntaf i gyrraedd y safle mewn achos o lofruddiaeth yng Nghaerdydd yn y 1980au cynnar, lle roedd y troseddwr yn dioddef salwch meddwl difrifol.
Ac mae amgylchiadau yn ei fywyd personol hefyd wedi cael dylanwad arno.
Eglurodd: “Yn 2001 collais fy mab Jonathan, a oedd yn astudio meddyginiaeth yn yr ysgol feddygaeth yng Nghaerdydd. Roedd problemau iechyd meddwl ganddo, ac fe laddodd ei hun.
“Drwy hynny sylweddolais os byddwch yn gallu helpu rhywun cyn iddo fynd yn sâl iawn, gall helpu i achub ei fywyd a gwneud gwahaniaeth. Dyna sydd wedi fy ysgogi.”
Sefydlodd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wobr a bwrsari er cof am Jonathan.
Ychwanegodd Peter: “Pan ofynnwyd i mi ymgymryd â'r rôl hon, roeddwn i'n meddwl y gallwn wneud gwahaniaeth, a dyna beth rwyf wedi ceisio ei wneud, i godi safonau.”
“Rwyf bob amser wedi gweithio ar sail yr egwyddor y dylech roi mwy nag y byddwch yn ei gymryd, a dyna beth rydyn ni wedi ceisio ei wneud gyda'r gwasanaeth hwn.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan: “Mae'n bleser mawr gennyf glywed bod Peter wedi cael cydnabyddiaeth gydag MBE. Mae'n cydnabod y gwaith hynod werthfawr a phwysig y mae'r tîm brysbennu iechyd meddwl a Peter wedi ei wneud - yn dilyn gyrfa yn Heddlu De Cymru a ddechreuodd yn 1979.
“Mae ei ymroddiad i sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl ar gael i'r bobl sydd ei angen yn ysbrydoliaeth, Da iawn Peter.”