Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn ar 25 Mehefin, 2021.
Cafodd Carl Chinnock, a oedd yn 50 oed, ei dderbyn i Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, ddau ddiwrnod cyn iddo farw. Daethpwyd o hyd iddo ym Maes Parcio Salt Lake, Porthcawl, ychydig cyn hanner nos ddydd Mercher, 23 Mehefin, ar ôl iddo ddioddef anaf difrifol i’w ben.
Cynhaliwyd Post Mortem gan y Swyddfa Gartref, a oedd yn nodi bod Carl wedi dioddef ymosodiad.
Cafodd dyn lleol 27 oed ei arestio heno ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.
Mae'r ymchwiliad yn mynd rhagddo ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis, yr Uwch-swyddog Ymchwilio: “Rydym yn meddwl am deulu ac anwyliaid Carl sy'n cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teuluol arbenigol yn ystod y cyfnod hwn.
“Credwn fod Carl wedi marw o ganlyniad i ymosodiad ac rydym wedi arestio dyn mewn cysylltiad â’i farwolaeth.
“Mae ein hymchwiliad yn mynd rhagddo i raddau helaeth, ac rwy'n apelio at unrhyw sydd â gwybodaeth, a allai fod wedi bod yn yr ardal ar adeg y digwyddiad, i gysylltu â'r heddlu – gwyddom fod Carl wedi mynd i mewn i'r maes parcio o ochr Traeth Coney.
“O'n hymholiadau, rydym hefyd yn gwybod bod pobl yng nghyffiniau'r maes parcio ychydig cyn ac ychydig ar ôl hanner nos ar y dydd Mercher hwnnw. Fy neges iddyn nhw yw cysylltu â ni ar unwaith oherwydd gallai fod ganddynt wybodaeth hanfodol.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 / anfon e-bost i [email protected] neu ddarparu gwybodaeth ar-lein drwy'r Porth Cyhoeddus Ymchwiliadau Mawr.