Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Tua 9.45pm ar 12 Ionawr 2019, saethodd Alfie Larkin 10 o fwledi at dŷ a chartref modur yn Greenway Road, Tredelerch, Caerdydd.
Yna, aeth ei ffrind, Rachel Crowthers, ati i guddio'r arf mewn bloc o goncrit ar waelod pot planhigyn riwbob.
Pan roddwyd y pot planhigyn drwy beiriant pelydr-X yn Ysbyty Athrofaol Cymru, dangosodd ddryll lled-awtomatig llawn gyda phum bwled yn y storgell.
Cafodd y dryll ei dynnu o'r sment gan dîm fforensig a dangosodd profion balistig mai dyma'r union ddryll a ddefnyddiwyd yn ystod yr achos o saethu liw nos ar 12 Ionawr 2019.
Cafwyd Larkin, 24 oed o Lundain, yn euog o fod ag arf tanio yn ei feddiant gyda’r bwriad o achosi ofn trais, yn dilyn achos yn Llys y Goron Caerdydd.
Clywodd y llys mai ymgais i ddial oedd y saethu, a hynny am ddigwyddiad yn 2018 pan gafodd ei drywanu yn ei law.
Mae wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw i 13 mlynedd yn y carchar – pum mlynedd am droseddau yn ymwneud â chyffuriau, ac wyth mlynedd am y troseddau yn ymwneud ag arf tanio, gyda chyfnod trwydded estynedig o bedair blynedd ar ben hynny.
Plediodd Crowthers, 22 oed o Gaerffili, yn euog i fod ag arf tanio yn ei meddiant a gwyrdroi cwrs cyfiawnder, a disgwylir iddi gael ei dedfrydu ddydd Llun 7 Mehefin.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Lloyd Williams o Heddlu De Cymru: “Anaml iawn y caiff arfau tanio eu defnyddio yn Ne Cymru, ond pan ddigwydd hynny, fel y mae Alfie Larkin wedi dysgu, rydym yn benderfynol o fynd ar ôl y bobl dan sylw.
“Mae'n ffodus iawn na chafodd neb ei anafu'n ddifrifol neu waeth o ganlyniad i'r digwyddiad hwn.
“Unigolyn cyfrwys yw Larkin, sydd bellach yn dechrau cyfnod hir yn y carchar yn lle parhau â'i addysg yn y brifysgol.
“Ni fyddwn yn goddef y defnydd o arfau tanio yng Nghaerdydd nac unrhyw ran o Dde Cymru. Mae Caerdydd yn ddinas ddiogel, ac rydym yn gweithio'n galed i'w chadw'n ddiogel.
“Hoffwn ddiolch i staff Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd am eu cymorth a'u harbenigedd hynod werthfawr wrth ein helpu i ddod o hyd i'r arf tanio a ddefnyddiwyd yn yr achos hwn a'i gadw.”