Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:27 24/07/2021
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol a ddigwyddodd ym Mharc Bute yn gynharach yr wythnos hon wedi arestio dyn arall.
Mae dyn 54 oed yn dal i fod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn dilyn ymosodiad ger mynediad Gerddi Sophia i Barc Bute tua 1am ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf.
Cafodd dyn 36 oed o Gaerdydd ei arestio neithiwr (Dydd Gwener, 24 Gorffennaf) ar amheuaeth o ymgais i lofruddio a dwyn, ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae dyn arall, 25 oed o ardal Glan yr Afon, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymgais i lofruddio yn gynharach yn yr wythnos, yn y ddalfa o hyd.
Mae menyw a gafodd ei harestio hefyd mewn cysylltiad â’r digwyddiad, wedi’i rhyddhau heb i unrhyw gamau pellach gael eu cymryd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea sy’n arwain yr ymchwiliad: “Roedd hwn yn ymosodiad parhaus a threisgar sydd wedi gadael dyn yn ddifrifol wael yn yr ysbyty, ac sydd, yn naturiol, wedi peri pryder – yn enwedig yn y gymuned leol.
“Mae Ystafell Digwyddiad Mawr yn parhau i weithredu yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cysylltu â ni i helpu gyda'r ymchwiliad hyd yma. Mae gennym dîm ymroddedig sy'n parhau i weithio ar yr ymchwiliad hwn, a byddwn yn dilyn pob llwybr ymholi er mwyn sicrhau y gellir dod â phawb dan sylw o flaen eu gwell. Mae teulu'r dioddefwr yn cael ei gefnogi gan Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
“Yn ogystal, rydym wedi cynyddu'r patrolau yn yr ardal ac rydym yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner er mwyn sicrhau y gall y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng nghanol y ddinas ac sy'n ymweld â hi wneud hynny'n ddiogel.
“Rydym yn parhau i apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu unrhyw un a allai fod wedi dioddef trosedd yn yr ardal honno, i gysylltu â ni. Gallaf eu sicrhau y cânt eu trin mewn ffordd sensitif."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, deunydd fideo o gamera dashfwrdd neu ffôn symudol a allai helpu gyda'r ymchwiliad, gysylltu â'r heddlu gan ddefnyddio'r porth penodol https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B34-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu cyfeirnod 2100254215.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
E-bostiwch: [email protected]
Ffoniwch: 101
Gallwch hefyd gysylltu â Taclo'r Tacle yn gwbl ddienw ar 0800 555 111.