Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:54 20/07/2021
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd yn apelio am dystion.
Am tua 1.10am y bore yma, ddydd Mawrth 20 Gorffennaf, cafodd swyddogion eu galw i fynediad Gerddi Sophia ym Mharc Bute yn dilyn adroddiadau yr ymosodwyd ar ddyn.
Cafodd y dyn anafiadau difrifol i'w ben ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael triniaeth. Credir bod ei anafiadau'n peryglu ei fywyd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea:
“Roedd hwn yn ymosodiad treisgar a pharhaus ar y dyn hwn, sydd wedi dioddef anafiadau sy'n peryglu ei fywyd. Mae trais o'r math hwn yn annioddefol, ac rydym yn cynnal nifer o ymholiadau i ddod o hyd i'r rhai sy'n gysylltiedig.
“Gwyddom fod nifer o bobl yn yr ardal, ac ym Mharc Bute, ar y pryd, felly os gwelsoch chi'r digwyddiad, neu os glywsoch chi beth ddigwyddodd o bosibl, cysylltwch â'r heddlu.
“Sefydlwyd Ystafell Digwyddiad Mawr yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd, felly rydym yn awyddus i gael unrhyw wybodaeth a allai helpu gyda'n hymholiadau. Gallwch fod yn sicr y bydd unrhyw un a fydd yn cysylltu â'r heddlu i rannu gwybodaeth yn cael ei drin yn sensitif.”
Os oeddech chi yn ardal Stryd y Castell rhwng hanner nos a 2.00am y bore yma ac os oes gennych unrhyw ddeunydd fideo o gamera dashfwrdd neu ffôn symudol, dylech gyflwyno'r deunydd hwnnw i ni.
Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio ein porth penodol https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B34-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu cyfeirnod 2100254215. Os byddai'n well gennych roi gwybod yn ddienw, gallwch wneud hynny drwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.