Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:45 30/07/2021
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod menyw 47 oed wedi marw yn sydyn mewn eiddo yn Trowbridge Green, Caerdydd.
Aeth swyddogion i'r eiddo am tua 2.30pm ddydd Iau, 29 Gorffennaf.
Cafodd dyn 46 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae ystafell digwyddiad wedi'i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd.
Rhoddwyd gwybod i'w pherthynas agosaf, sy'n cael cymorth gan swyddogion cyswllt â theuluoedd.
Nid yw ditectifs yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *265924.
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101.