Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:29 21/07/2021
Dau unigolyn yn cael eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol ym Mharc Bute, Caerdydd
Mae ditectifs Heddlu De Cymru yng Nghaerdydd sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol a ddigwyddodd tua 1.10am ddydd Mawrth 20 Gorffennaf ym Mharc Bute wedi arestio dau unigolyn.
Cafodd menyw 18 oed o Dredelerch ei harestio ar amheuaeth o glwyfo'n fwriadol a lladrad, a chafodd dyn 25 oed o Lan-yr-afon ei arestio ar amheuaeth o ymgais i lofruddio. Maent yn parhau yng ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea:
“Gwyddom fod y digwyddiad hwn wedi peri pryder i'r gymuned leol, ond hoffwn roi sicrwydd i bobl, er ei fod yn ddigwyddiad difrifol, ac yn un sy'n peri gofid heb os, achos unigol yw hwn.
"Rydym wedi gwneud cynnydd da gyda'r ymchwiliad, a hyd yn hyn rydym wedi arestio dau unigolyn. Bydd ein hymchwiliadau yn parhau nes y byddwn wedi dod o hyd i bawb fu'n gyfrifol am y digwyddiad a'u dwyn o flaen eu gwell.”
Mae dyn 54 oed o Butetown, Caerdydd yn parhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mewn cyflwr sy'n peryglu ei fywyd.
Bydd mwy o batrolau yn yr ardal leol i roi tawelwch meddwl i'r gymuned leol.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni gan ddefnyddio ein porth penodol https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B34-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu cyfeirnod 2100254215. Os byddai'n well gennych roi gwybod yn ddienw, gallwch wneud hynny drwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
Ffôn: 101