Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Carl Chinnock, gŵr 50 oed o Borthcawl, wedi cyhuddo Christopher George, sy'n 27 oed, o'r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, o ddynladdiad.
Ymddangosodd George gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (dydd Gwener 2 Gorffennaf 2021) lle gafodd ei gadw yn y ddalfa. Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 30 Gorffennaf.
Mae partner Mr Chinnock, Sandi, wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud: "Roedd Carl yn gofalu amdanaf, fe oedd fy nghariad, fy ffrind gorau, fy enaid hoff gytûn. Rwy'n torri fy nghalon.”
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Mark Lewis, o Dîm Ymchwiliadau Troseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Er bod dyn wedi cael ei gyhuddo, rwyf am bwysleisio unwaith eto bod ein hymchwiliad yn parhau.
“Rwy'n ddiolchgar am y wybodaeth a'r cymorth a gafwyd eisoes, ond rwy'n gwneud apêl arall er mwyn adnabod y bobl sy'n ymddangos yn y delweddau atodol, sy'n dangos dau ddyn a merch yn cerdded heibio i siop sglodion ‘Mansel's’, ger ffair Traeth Coney am 11.46pm ddydd Mercher 23 Mehefin. Nid yw'r bobl hyn yn unigolion dan amheuaeth ond rwy'n credu eu bod yn dystion posibl a all ein helpu gyda'n hymholiadau.”
Os mai chi yw un o'r unigolion a welir yn mynd heibio i ffair Traeth Coney, neu os ydych yn gwybod pwy ydyn nhw neu os oes gennych wybodaeth a all helpu'r ditectifs â'u hymholiadau, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r dulliau canlynol, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2100220841