Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:17 04/07/2021
Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Heddlu De Cymru asesiad ymchwiliol i feysydd penodol y cyfeiriwyd atynt gan gynrychiolwyr cyfreithiol David Morris.
Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys mynd ar drywydd darpar dystion newydd a ddynodwyd mewn rhaglen gan BBC Wales Investigates ar yr achos.
Fel rhan o'r gwaith hwn, siaradodd y ditectifs â'r ddau dyst a dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd unrhyw wybodaeth wedi'i darparu sy'n tanseilio collfarn David Morris.
Mae asesiad ymchwiliol, sy'n cael ei oruchwylio gan uwch swyddog ymchwilio, dirprwy ac ymchwilydd fforensig o Heddlu Dyfnaint a Chernyw, bellach yn symud i ystyried y materion fforensig a heriwyd yn rhaglen ddogfen y BBC.
Wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo, rydym yn parhau i feddwl am y teuluoedd a'r bobl eraill y mae'r achos hwn wedi effeithio arnynt, ac yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae'n parhau i'w chael arnynt.