Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O ddydd Llun 26 Gorffennaf i ddydd Sul 1 Awst, bydd Heddlu De Cymru yn cymryd rhan mewn ymgyrch diogelwch #GwybodBleYnUnion dros yr haf i godi ymwybyddiaeth o'r ap what3words, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, a sut y gellir ei ddefnyddio'n effeithiol mewn argyfwng. Bob blwyddyn mae'r gwasanaethau brys yn ymuno ag awdurdodau lleol a sefydliadau o bob rhan o'r DU i annog y cyhoedd i lawrlwytho'r ap fel ffordd syml o arbed amser, adnoddau, ac mewn rhai achosion, achub bywydau.
Eleni yn fwy nag erioed, mae'r gwasanaethau brys ledled y DU yn paratoi ar gyfer haf eithriadol o brysur, gan fod cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol wedi arwain at gynnydd enfawr mewn pobl yn dewis treulio’u gwyliau yn y DU. Mae lawrlwytho what3words yn un o'r camau symlaf y gall y cyhoedd ei gymryd i gefnogi ystafelloedd rheoli brys sydd dan bwysau.
Mae what3words wedi rhannu'r byd yn grid o sgwariau 3m x 3m. Mae wedi rhoi dynod unigryw i bob sgwâr wedi'i wneud o dri gair ar hap - cyfeiriad what3words. Bydd //anyway.lend.give, er enghraifft, yn mynd â chi at sgwâr penodol ar Bromsgrove Highway, lle cafodd dyn drawiad ar y galon ym mis Ebrill 2021 tra oedd ei fab yn gyrru. Gan ddefnyddio'r cyfeiriad what3words hwn, roedd ei fab yn gallu cyfeirio'r gwasanaeth ambiwlans yn gyflym at ei union leoliad, a dywedant ei fod wedi achub bywyd ei dad yn ddi-os.
Mae'r ap yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ar gyfer iOS ac Android ac yn gweithio'n gyfangwbwl all-lein – gan ei wneud yn ddelfrydol i'w ddefnyddio mewn rhannau o'r DU sydd â chysylltiad data annibynadwy, fel traethau, parciau cenedlaethol a gwersylloedd, sy'n hynod boblogaidd yn ystod misoedd yr haf. Gall what3words gael ei ddefnyddio hefyd drwy'r map ar-lein ar what3words.com. Mae'r ap ar gael mewn dros 45 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, a gellir ei ddefnyddio unrhyw le yn y byd.
Mae what3words bellach yn cael ei ddefnyddio gan dros 85% o wasanaethau brys y DU – yr heddlu, tân ac ambiwlans – a disgrifiodd yr holl wasanaethau a holwyd what3words fel 'arf dibynadwy i'w gael fel rhan o'r pecyn cymorth brys'. Er nad yw wedi'i fwriadu i gymryd lle'r offer goroesi traddodiadol sy'n werth eu cofio ar bob taith gerdded, trip gwersylla, neu antur awyr agored arall yr haf hwn, mae'r dechnoleg wedi dod yn bartner a ddefnyddir yn aml gan y gwasanaethau brys, gan arbed amser ac adnoddau gwerthfawr i'r rhai sy'n anfon ac yn ymateb mewn argyfwng.
‘Ble mae’r argyfwng?’ yw un o'r cwestiynau cyntaf a ofynnir i chi wrth ffonio 999, ond mae dweud yn union ble yr ydych yn gallu codi her. Gall argyfyngau ddigwydd yn unrhyw le - traeth anghysbell yn yr Alban, ochr yr M1, neu ganol Hyde Park. Yn aml, ni all gwasanaethau ganfod eich lleoliad yn awtomatig, ac mae pinnau wedi'u gollwng yn anodd eu hegluro dros y ffôn. Ceir gwallau ar ddisgrifiadau sy'n seiliedig ar dirnod, ac mae cyfesurynnau GPS yn hir ac yn anodd eu cyfathrebu. Mae hyn yn dreth rwystredig ar adnoddau; ac ar y gwaethaf, gallai olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.
Mae'r gwasanaethau brys wedi'u hyfforddi i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am leoliadau gan alwyr, ac mae ganddynt fynediad at nifer o wahanol dechnolegau a dulliau sy'n eu helpu i nodi lleoliadau galwyr - what3words yw un ohonynt. Mewn arolwg gwirfoddol diweddar o 18 o ystafelloedd rheoli gwasanaethau brys ledled y DU, cytunodd 89% fod what3words yn 'arf hanfodol i'r cyhoedd ei gael ar eu ffonau yr haf hwn'.
'Gall bod angen cymorth brys, a methu disgrifio'n hawdd lle mae angen help, fod yn ofidus iawn i'r galwr, a chreu sefyllfa anodd iawn i'r gwasanaethau brys. Heddiw, mae gan bobl eu ffonau symudol gyda nhw bron bob amser. Cyn haf prysur, gyda phobl yn mynd ar wyliau gartref, mae angen i ni ddefnyddio'r offer sydd ar gael i wella gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi canolfannau rheoli argyfwng ac, o bosibl, achub bywydau' ychwanega Chris Sheldrick, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol what3words.
Dywedodd Pennaeth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, yr Uwch-arolygydd Emma Tyler: “Mae What 3 Words bellach wedi'i integreiddio'n llawn yn ein hystafell reoli, sy'n golygu os bydd rhywun yn defnyddio'r ap pan fydd ar goll neu i roi gwybod i ni am leoliad penodol wrth ddweud wrthym am ddigwyddiad, gallwn ddefnyddio'r tri gair hynny i ddod o hyd i'r union leoliad.
“Y mis hwn yn unig, mae aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r ap wedi helpu ein tîm i leoli beiciwr mynydd wedi'i anafu, dod o hyd i feic modur wedi'i ddwyn, a rhoi gwybod i ni am leoliad unigolyn coll a oedd yn agored i niwed.”
Am ragor o wybodaeth ewch i www.knowexactlywhere.com