Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddangosodd Karl Martinson, sy'n 38 oed, o'r Rhath yng Nghaerdydd gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Gwener 2 Gorffennaf) lle cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd a hanner o garchar.
Ddydd Llun 10 Mai eleni, cynhaliodd swyddogion Tarian, sef uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol De Cymru, chwiliad dan warant o gyfeiriad yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd.
Pan oedd swyddogion yn cynnal chwiliad o'r eiddo, daethant o hyd i wn peiriant bach 9mm Skorpion vz.61 o darddiad Tsiecoslofacaidd a oedd wedi'i lwytho â chetris byw, 5 cilo o ganabis gwair a chafodd mwy na £3200 o arian parod ei atafaelu.
Cafodd Karl Martinson ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa. Ar 9 Mehefin, plediodd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd i fod ag arf tanio wedi'i wahardd yn ei feddiant, bod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi a bod â gwerth £3240 o eiddo troseddol yn ei feddiant.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Grant o Tarian: “Diogelu ein cymunedau yw ein blaenoriaeth o hyd.
“Er bod atafaelu'r arf hwn yn peri gofid, rwyf am roi sicrwydd i bobl bod gynnau fel hyn yn anarferol iawn yma yn Ne Cymru, diolch byth.
“Roedd cymaint o dystiolaeth i ddangos bod Martinson yn euog, nid oedd ganddo unrhyw ddewis ond pledio'n euog.
“Mae llwyddiant yr ymchwiliad hwn yn dangos ein bod yn benderfynol o ymlid y rhai sy'n ymwneud â throseddau ar raddfa fawr, er mwyn sicrhau cyfiawnder yn erbyn unigolion o'r fath a'u dwyn gerbron y Llys.”