Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:40 06/07/2021
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i drosedd casineb ar Heol y Gadeirlan, Caerdydd yn ystod oriau mân y bore ar 1 Gorffennaf.
Ymosodwyd ar ddyn 27 oed gerllaw garej Esso.
Cafodd anafiadau i’w wyneb ac yn ddealladwy, cafodd ei ysgwyd gan y digwyddiad.
Mae’r teledu cylch cyfyng yn dangos y dyn sydd dan amheuaeth yn gadael yr ardal mewn tacsi gyda dyn arall anhysbys.
Mae ymholiadau yn mynd rhagddynt i adnabod ac arestio’r sawl sy’n gyfrifol.
Gofynnir i'r unigolyn neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu *229672.
Trosedd casineb yw unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol.
Nid oes lle i droseddau casineb mewn cymdeithas ac maent bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.
Rydym yn annog pobl, p’un a ydynt wedi dioddef trosedd casineb neu'n dyst i drosedd o'r fath, i roi gwybod amdani’n syth i Heddlu De Cymru, a hynny heb ofn.
Ewch i: https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffoniwch: 101