Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:20 28/07/2021
Bydd swyddogion a staff arwrol yr heddlu o bob cwr o'r DU a fu farw wrth ddiogelu'r cyhoedd bellach yn cael eu coffáu drwy gofeb barhaus a gafodd ei dadorchuddio heddiw yn yr Ardd Goed Goffa Genedlaethol yn Swydd Stafford.
Bydd Cofeb newydd Heddlu'r DU yn anrhydeddu dewrder ac aberth yr unigolion hynny o bob rhan o wasanaeth yr heddlu sydd wedi ymroi eu bywydau i ddiogelu'r cyhoedd.
Aeth cannoedd o westeion i'r seremoni, a gynhaliwyd yn unol â chyfyngiadau'r Coronafeirws, gan gynnwys urddasolion, uwch-wleidyddion, cynrychiolwyr o bob heddlu yn y DU, elusennau plismona, a theuluoedd a ffrindiau swyddogion a gafodd eu lladd ar ddyletswydd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan, a aeth i'r digwyddiad ar ran Heddlu De Cymru:
“Bu'n fraint cynrychioli swyddogion a staff, ddoe a heddiw, yn y seremoni ddadorchuddio genedlaethol heddiw.
“Mae swyddogion a staff yr heddlu yn wynebu risgiau bob dydd er mwyn helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel, a bydd y gofeb hon yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae plismona yn ei wneud at ein cymuned.
“Fel pob heddlu, mae Heddlu De Cymru wedi wynebu trasiedi wrth i 17 o swyddogion a staff lleol wneud yr aberth eithaf ers sefydlu Heddlu De Cymru yn 1969.
“Bydd y gofeb yn ganolbwynt i deulu, ffrindiau a chydweithwyr yr unigolion hynny a gafodd eu lladd ar ddyletswydd, lle y gallant fynd i gofio amdanynt.”
I gyd-fynd â'r digwyddiad cenedlaethol, cynhaliwyd digwyddiad lleol ym mhencadlys Heddlu De Cymru dan arweiniad y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jenny Gilmer a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael. Roedd y seremoni yn cynnwys darlleniadau, munud o dawelwch, gosod torchau, blodau a biwglwr.
Ers 1749 pan sefydlwyd y Bow Street Runners yn heddlu cydnabyddedig cyntaf y wlad, mae bron 5,000 o swyddogion ac aelodau o staff yr heddlu wedi marw wrth blismona ein cymunedau, dros 1,500 ohonynt drwy weithredoedd treisgar.
Yr Ardd Goed Goffa Genedlaethol yw'r lleoliad cenedlaethol ar gyfer coffáu ein gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn. Ceir bron 400 o gofebion sy'n ysgogi'r meddwl yno, gan gynnwys Cofeb Genedlaethol y Lluoedd Arfog, ac mae'n denu dros 300,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Bob awr o bob diwrnod, mae ymroddiad a phroffesiynoldeb swyddogion a staff yr heddlu ledled y Deyrnas Unedig yn sicrhau diogelwch y cyhoedd yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau.
“Ymhlith egwyddorion Syr Robert Peel ar gyfer sefydlu gwasanaeth yr heddlu yn Llundain, gwyddai mai'r heddlu yw'r cyhoedd, a'r cyhoedd yw'r heddlu. Bydd Cofeb newydd yr Heddlu yn y DU yn lleoliad i bobl dalu teyrnged i aelodau o'u teuluoedd, eu ffrindiau a'u cydweithwyr a fu'n barod i wneud yr aberth fwyaf wrth ymgymryd â'u dyletswyddau.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.ukpolicememorial.org