Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw rydym yn cofio 26 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Srebrenica, Bosnia-Herzegovina, lle y cafodd 8,327 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd yn bennaf eu llofruddio yn yr erchyllter gwaethaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae trosedd casineb yr un mor berthnasol ag erioed yn ein cymunedau heddiw, felly mae'n rhaid i ni gofio digwyddiadau'r gorffennol er mwyn gweithio i wella'r dyfodol.
Bydd munud o dawelwch am 11am heddiw i fyfyrio ar ddigwyddiadau Srebrenica.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“26 mlynedd yn ôl i heddiw, daeth y troseddau casineb mwyaf erchyll a gyflawnwyd erioed yn Ewrop i ben – sef hil-laddiad a gyflawnwyd yn Srebrenica lle y cafodd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd eu lladd. I weld y peth yn ei wir oleuni, dyna bron ddwywaith nifer y bobl sy'n gweithio i Heddlu De Cymru heddiw, wedi'u lladd am y ffaith eu bod yn perthyn i grefydd benodol.
“Roedd Srebrenica yn gymuned fywiog ac integredig ar un adeg, ond fe'i difethwyd yn llwyr ar ôl i gasineb gael cyfle i ledaenu'n ddirwystr. Yn wir, roedd casineb yn cael ei hyrwyddo drwy ffug bropaganda a arweiniodd at bobl a oedd yn byw mewn cytgord perffaith â'i gilydd ar un adeg, yn brwydro â'i gilydd ac yn lladd ei gilydd yn ddisynnwyr ar sail hunaniaeth a chredoau.
“Pam mae'r digwyddiad hwn yn parhau'n berthnasol heddiw? Fel heddlu, mae'n rhaid i ni ddysgu o'r digwyddiadau erchyll hyn er mwyn deall ein rôl yn y gwaith o ddileu casineb yn ein cymunedau a hyrwyddo cytgord. Mae lle i bawb yn ein cymunedau, a'n dyletswydd ni yw amddiffyn pobl sy'n wynebu troseddau casineb a dod â phobl sy'n ceisio gwthio eu rhagfarn ar eraill o flaen eu gwell.
“Heddiw, rydym yn cofio Srebrenica ac yn myfyrio ar yr hyn rydym wedi ei gyflawni o ran cefnogi dioddefwyr casineb ac anoddefiad, ond hefyd ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud i sicrhau bod ein cymunedau'n ddiogel i bawb.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Wrth i ni agosáu at Nadolig 1997, fel Dirprwy Ysgrifennydd Cartref, hedfanais i Sarajevo i ymweld â Swyddogion yr Heddlu Prydeinig a oedd yn helpu i adfer hawliau dynol a chreu gwasanaeth yr heddlu democrataidd ym Mosnia. Fe'm syfrdanwyd gan ymrwymiad a dynoliaeth y swyddogion hynny a'r profiadau torcalonnus roeddent wedi'u cael mewn trefi a phentrefi lle roedd llofruddiaethau torfol wedi digwydd drwy 'lanhau ethnig'.
“Cofiwn Srebrenica fel y digwyddiad unigol mwyaf dychrynllyd o'r cyfnod hwnnw, ond nid digwyddiad untro ydoedd a bydd unrhyw un sydd wedi astudio'r Holocost yn gwybod pa mor ddiderfyn yw gallu dynol ryw i fod yn greulon a dangos annynoldeb – rhywbeth sy'n parhau ar bob cyfandir heddiw.
“Gwelir yr annynoldeb hwnnw yng nghreulondeb troseddau casineb, caethwasiaeth fodern, cam-drin plant a thrais a cham-drin domestig yn ein cymunedau ein hunain, sydd yn flaenoriaeth i ni eu dileu – ac mae cofio Srebrenica yn ymwneud â deall beth gall ddigwydd i wlad wâr os na chaiff agweddau anoddefiad a chasineb cyffredin beunyddiol eu dileu.
“Dyma pam ein bod wedi manteisio ar y cyfleoedd a grëir gan y brotest Mae Bywydau Du o Bwys er mwyn deall, ac yn hyrwyddo'r syniad, ei bod yn well i bob un ohonom fyw mewn cymdeithas sy'n gwerthfawrogi pob unigolyn ni waeth beth fo'i liw, ei gred na'i nodweddion eraill – ac mae angen ymrwymiad gan bob un ohonom er mwyn meithrin cymdeithas o'r fath.
“Gadewch i ni ddathlu gwerthoedd cadarnhaol ein cymunedau yn Ne Cymru, ond gan gydnabod bod enghreifftiau o gasineb ac anoddefiad yn ffynnu yma hefyd.”
Gellir darllen rhagor o wybodaeth am straeon personol o Srebrenica yma.