Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
23:29 22/07/2021
Aethpwyd â chwech o bobl i Ysbyty Athrofaol Cymru heno yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd wrth dafarn The Windsor ar Heol Llantrisant ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf.
Credir bod dyn 79 oed wedi dioddef pwl meddygol a arweiniodd i'r car roedd yn ei yrru, sef Ford Puma arian, i wrthdaro â'r dafarn.
Cafodd nifer o gerddwyr eu hanafu.
Mae un ohonynt wedi dioddef anafiadau a fydd yn newid ei fywyd ac mae gyrrwr y car mewn cyflwr difrifol. Aethpwyd â'r pedwar cerddwr arall i'r ysbyty hefyd fel cam rhagofalus, gan eu bod yn dioddef mân anafiadau, yn ôl disgrifiadau.
Dywedodd y Prif Arolygydd, Comander Arian James Ratti o Heddlu De Cymru: “Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad difrifol ychydig cyn 8.30 heno ac roedd nifer o bobl wedi'u hanafu yn y lleoliad.
“Gwnaethom gydweithio â'n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Ambiwlans a'r Gwasanaeth Tân i ddelio â'r bobl hyn mor gyflym ac effeithlon â phosibl.
“Roedd y digwyddiad hwn yn un a oedd wedi peri gofid mawr i'r bobl o gwmpas y lleoliad, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r aelodau o'r cyhoedd a ddaeth i helpu'r bobl a anafwyd yn union ar ôl y gwrthdrawiad.”
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i’r gwrthdrawiad.