Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pobl yn cael eu hannog i sicrhau mai dim ond os oes angen iddynt siarad â'r heddlu mewn argyfwng y byddant yn ffonio 999 – gan sicrhau bod llinellau ffôn ar gael i'r rhai y mae angen help arnynt ar frys.
Ym mis Mehefin 2021, derbyniodd Heddlu De Cymru y nifer mwyaf erioed o alwadau 999 mewn mis, sef 21,501.
Ond mae'n bosibl y caiff y record honno ei thorri y mis hwn – derbyniwyd bron 16,500 o alwadau brys yn ystod tair wythnos gyntaf y mis, neu gyfartaledd o 33 o alwadau bob awr o'r dydd.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yr heddlu hefyd wedi derbyn mwy na 29,100 o alwadau nad ydynt yn rhai brys dros yr un cyfnod, sef cyfartaledd o 58 o alwadau bob awr.
Er mwyn sicrhau ei bod hi'n fwy cyfleus cysylltu â'r heddlu, ac er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r galw, mae nifer o ddulliau cysylltu digidol wedi'u sefydlu er mwyn helpu pobl i gysylltu â Heddlu De Cymru os nad oes argyfwng. Yn eu plith mae ffyrdd o roi gwybod am droseddau ar-lein drwy wefan Heddlu De Cymru, negeseuon uniongyrchol ar Facebook a Twitter, a negeseuon e-bost i'n hystafell reoli.
Mae'r llinell 101 ar gyfer galwadau nad ydynt yn rhai brys ar gael hefyd, er y bydd yn well gan lawer o bobl gysylltu â'r heddlu drwy sianeli digidol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Mae ein timau sy'n derbyn galwadau, ein timau cysylltiadau digidol a'n swyddogion trosglwyddo yn gweithio'n galed iawn ddydd a nos i fod yno i bobl mewn angen.
“Mae'r galw hyd yma yr haf hwn wedi bod yn eithriadol o uchel – ym mis Mehefin eleni, derbyniwyd bron 6,000 yn fwy o alwadau brys nag ym mis Mehefin 2020, a 3,600 yn fwy nag ym mis Mehefin 2019 – ac rydym yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau y gallwn roi blaenoriaeth i'r rhai y mae angen help yr heddlu arnynt mewn argyfwng.
“I'r rhai nad oes angen iddynt ffonio, mae ein desg ddigidol yn ymateb i negeseuon e-bost, adroddiadau am droseddau ar-lein a negeseuon uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol 24/7.”
Ychwanegodd:
“Gyda'i gilydd, rydym wedi derbyn tua 60,000 o alwadau a chysylltiadau digidol yn ystod tair wythnos gyntaf mis Mehefin.
“Wrth gwrs, rydym yma bob amser a byddwn bob amser yn helpu'r rhai sydd ein hangen fwyaf. Ond rydym yn gofyn i bobl gofio mai dim ond os bydd trosedd yn mynd rhagddi neu os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol y dylid ffonio 999.
“Fel arall, cofiwch y gallwch gysylltu â ni ar-lein.”