Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:04 27/07/2021
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol ym Mharc Bute, Caerdydd, wedi arestio merch 16 oed.
Cafodd y ferch ei harestio neithiwr yn ardal Creigiau, Caerdydd, ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae yn y ddalfa o hyd.
Mae dyn 54 oed yn dal i fod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn dilyn yr ymosodiad a ddigwyddodd tua 1am ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf.
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'w deulu, sy'n cael cymorth gan swyddogion cyswllt â theuluoedd sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dros Dro, Stuart Wales, yr Uwch-swyddog Ymchwilio: “Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cymorth gwerthfawr wrth i ni barhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad.
“Er bod yr arestiad diweddaraf hwn yn ddatblygiad cadarnhaol arall, rydym yn apelio am wybodaeth o hyd. Ni waeth pa mor ddibwys y mae'r wybodaeth yn ymddangos, gallai fod yn hanfodol ar gyfer ein hymchwiliad.
“Yn benodol, hoffem glywed gan unrhyw un a oedd ym Mharc Bute yn ystod oriau mân bore dydd Mawrth, 20 Gorffennaf.
“Yn benodol, rydym am siarad ag unrhyw un a oedd yn agos at bont droed y Mileniwm, sy'n cysylltu Parc Bute â Gerddi Sophia, rhwng hanner nos a 1.20am.”
Mae Ystafell Digwyddiad Mawr wedi'i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd a bydd mwy o batrolau'n parhau yn yr ardal.
Ymddangosodd Jason Edwards, 25 oed, a Lee William Strickland, 36 oed, y ddau ohonynt o Gaerdydd, gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddoe (Dydd Llun, 26 Gorffennaf) wedi'u cyhuddo o ymgais i lofruddio, ac maent yn cael eu cadw yn y ddalfa ar gyfer gwrandawiad llys arall ar 23 Awst.
Gellir cyflwyno unrhyw wybodaeth neu ddeunydd fideo a allai helpu gyda'r ymchwiliad gan ddefnyddio'r porth ar-lein https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B34-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad *254215.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
E-bostiwch: [email protected]
Ffoniwch: 101
Gallwch hefyd gyflwyno gwybodaeth i Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.