Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ditectifs yng Nghaerdydd sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol a ddigwyddodd yn ystod oriau mân y bore ddydd Iau 15 Gorffennaf ym Mharc Bute wedi cyhuddo dyn o'r drosedd.
Mae ditectifs yng Nghaerdydd sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol a ddigwyddodd yn ystod oriau mân y bore ddydd Iau 15 Gorffennaf ym Mharc Bute wedi cyhuddo dyn o'r drosedd.
Mae Tyler Higgens, 19 oed, o Cathays yng Nghaerdydd yn cael ei gadw yn y ddalfa. Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun (19 Gorffennaf) i wynebu dau achos o drais.
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais o ddifrif, ac yn annog unrhyw un sy'n dioddef trosedd o'r fath i roi gwybod amdani. Dylai dioddefwyr deimlo'n hyderus y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas, ac yr ymchwilir i'w honiad yn llawn.
Rydym yn derbyn pob adroddiad am drais, trais a amheuir neu drais posibl ar ei olwg ac yn ei gofnodi ar system cofnodi troseddau'r heddlu, ni waeth beth yw ffynhonnell yr adroddiad. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau a wneir gan drydydd partïon, drwy waith partneriaeth neu gan asiantaethau eraill.
Mae pob aelod o'r staff sy'n ymdrin ag achosion fel hyn, o'r cysywllt cyntaf â'r dioddefwr hyd at gwblhau ffeil tystiolaeth, yn cwblhau proses hyfforddi ac achredu gynhwysfawr i sicrhau bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal mewn modd proffesiynol.
Rydym yn ystyried defnyddio cyfleuster y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ym mhob achos o drais. Drwy ddefnyddio'r Ganolfan o'r cychwyn cyntaf, gellir sicrhau bod y dioddefwr yn cael y cymorth cywir drwy gydol y broses, o roi gwybod am y digwyddiad i derfyn yr achos, gan gynnig gofal iechyd, cymorth mewn argyfwng a gwasanaeth mentora drwy'r broses cyfiawnder troseddol.