Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am leoliad Audi Q5 a ddefnyddiwyd mewn achos o herwgipio a ddigwyddodd rhwng dydd Gwener 11 Rhagfyr a dydd Sadwrn 12 Rhagfyr y llynedd.
Cafodd dioddefwr yr achos o herwgipio, a ddigwyddodd yng Nghaerdydd, ei yrru o'r ddinas mewn Audi Q5 llwyd â rhif cofrestru ffug i gyfeiriad yn Hemel Hempstead lle y cynhaliwyd ymgyrch achub lwyddiannus gan swyddogion o sawl heddlu.
Mae Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad. Mae 12 o unigolion dan amheuaeth o Ogledd-orllewin Llundain wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r achos o herwgipio a'u cadw yn y ddalfa.
Mae'r dioddefwr yn cael ei gefnogi gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
Un llwybr ymholi allweddol i'r ymchwilwyr yw adfer yr Audi Q5 llwyd a ddefnyddiwyd gan y gang i gludo'r dioddefwr o Gaerdydd i Hemel Hempstead.
Credir y gall y car hwn fod yn ardal gogledd Llundain neu Hemel Hempstead, ac mai cerbyd ar log neu fenthyg ydoedd o bosibl, yr oedd angen ei ddychwelyd i'r cwmni neu'r perchennog erbyn dydd Llun 14 Rhagfyr 2020.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am leoliad y cerbyd hwn neu ei rif cofrestru cywir.
Mae ditectifs yn awyddus i glywed gan unrhyw gwmnïau a allai fod wedi llogi Audi Q5 llwyd rhwng 1 a 31 Rhagfyr 2020; neu gan berchenogion Audi Q5 llwyd yn ardal gogledd Llundain neu Hemel Hempstead y gallai eu Audi Q5 fod wedi cael ei wasanaethu mewn garej yn ystod y cyfnod cyn dydd Llun 14 Rhagfyr 2020, sef y dyddiad pan gafodd ei gasglu o bosibl.
Mae Heddlu De Cymru am roi sicrwydd i'r cyhoedd ei bod yn ymddangos mai achos unigol oedd hwn.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth a all helpu gyda'r llwybr ymholi hwn gysylltu â'r Ystafell Digwyddiadau Mawr yng Ngorsaf yr Heddlu Canol Caerdydd ar 029 20571530; Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 neu'r tîm ymchwilio drwy'r porth cyhoeddus digwyddiadau mawr: https://mipp.police.uk/operation/62SWP20B25-PO1
Dyfynnwch gyfeirnod y digwyddiad 2000450215.