Stamp amser presennol: 03/02/23 14:20:44
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Adolygiad annibynnol i helpu i gefnogi cymunedau clos - Datganiad ar y cyd

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

12:21 19/07/2021

Mae adolygiad ar y cyd annibynnol yn cael ei sefydlu fel rhan o fesurau i gefnogi cymuned yn Abertawe.

Caiff yr adolygiad ei arwain gan banel tri aelod wedi'i gadeirio gan Gwnsler y Frenhines (CF), yr Athro Elwen Evans, ynghyd ag is-gadeiryddion, yr arbenigwr heddlu Martin Jones a'r arbenigwr llywodraeth leol, Jack Straw.

Mae cymunedau Mayhill a Waun Wen wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Abertawe a Heddlu De Cymru i gefnogi pobl leol yn dilyn yr aflonyddwch yn yr ardal ar 20 Mai.

Daeth preswylwyr, arweinwyr cymunedol a'r awdurdodau ynghyd i helpu'r gymuned glos a darparu amrywiaeth o gefnogaeth ddi-oed i'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ar 20 Mai.

Gyda'r ymchwiliad troseddol yn parhau, mae Cyngor Abertawe, ynghyd â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif Gwnstabl, wedi cyhoeddi y bydd adolygiad dysgu ar y cyd annibynnol i ddarganfod rhagor am gefndir y digwyddiad a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

Caiff yr adolygiad ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi croesawu'r arweinyddiaeth leol y mae'r cyngor a'r heddlu wedi'i dangos.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Roedd yr aflonyddu anghyfreithlon a welsom yn hunllefus. Criw ymosodol a throseddwyr oedd yn gyfrifol, ac nid yw'n adlewyrchiad gwir o gymunedau gwych Mayhill a Waun Wen - na mwyafrif pobl Abertawe.

"Gwnaethom weithredu'n syth i gefnogi preswylwyr yn dilyn yr aflonyddu ac rydym yn dal i weithio ochr yn ochr â theuluoedd, pobl ifanc, cynghorwyr lleol ac arweinwyr cymunedol yn ystod yr adferiad.

"Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod ni'n manteisio ar y cyfle i ateb y cwestiynau y mae'r gymuned wedi'u gofyn, a dysgu rhagor am gefndir y digwyddiad hwn, yr hyn a ddigwyddodd ar y noson a chanlyniadau'r digwyddiad.

"Mae digwyddiadau fel y rhai a welsom ym Mayhill a Waun Wen yn brin iawn diolch byth, ac mae'r adolygiad annibynnol yn rhoi cyfle i ni ddysgu gwersi er mwyn atal digwyddiadau eraill ar draws Cymru yn y dyfodol.”

Gwnaeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gymeradwyo'r ymagwedd hon drwy ddatgan:

"Mae'n bwysig i ni ddeall pam a sut y digwyddodd yr aflonyddu ym Mayhill, sut y gwnaeth pob asiantaeth ymateb a sut i ddefnyddio canlyniad yr adolygiad dysgu mewn ffordd adeiladol ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n bwysig nodi y gwnaeth Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr gwrdd â minnau, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a'r Prif Gwnstabl, yn syth a gwnaethom gytuno i weithio gyda'n gilydd i benodi Cadeirydd annibynnol ar gyfer yr Adolygiad Dysgu.

"Bydd yr adolygiad yn archwilio'r hyn a arweiniodd at y digwyddiad hwnnw, p'un a fyddai unrhyw un wedi gallu ei ragweld, a'r ffordd y gwnaeth asiantaethau ymateb i gefnogi'r gymuned leol ac adfer hyder yn dilyn y digwyddiad.Mae'n cael ei sefydlu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cyllid er mwyn gallu cynnal yr adolygiad.

"Mae Cadeirydd annibynnol â chymwysterau cyfreithiol yn cael ei benodi, a chaiff ei gefnogi gan ddau is-gadeirydd; mae gan un ohonynt brofiad o uwch-arweinyddiaeth gyda'r llywodraeth leol ac mae gan y llall brofiad rheoli gyda phlismona.Bydd yr adolygiad hwn yn adeiladu ar adolygiadau mewnol ynghylch y digwyddiad a gynhaliwyd eisoes gan sefydliadau unigol.  Bydd hefyd yn ystyried sut gwnaeth aelodau'r gymuned ymateb a chefnogi ei gilydd yn dilyn y digwyddiad."

Ychwanegodd y Cynghorydd Rob Stewart,  "Gan weithio gyda'r gymuned, bydd yn ein helpu i ddatblygu cynlluniau tymor hir er mwyn parhau i gefnogi'r ardal i adfer o'r hyn a ddigwyddodd."

Caiff preswylwyr yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan yr aflonyddu, yn ogystal â grwpiau cymunedol ac arweinwyr, eu gwahodd i roi adborth i'r panel ymchwilio.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart fod y cyngor wedi parhau i fuddsoddi'n fawr yn yr ardal dros y degawd diwethaf, er gwaethaf blynyddoedd o galedi i lywodraeth genedlaethol y DU. Buddsoddwyd tua £50m i wella tai yn yr ardal.

Y llynedd, cwblhawyd gwaith gwerth £500,000 i adnewyddu Ysgol Gynradd Seaview leol, a derbyniodd clwb ieuenctid lleol Townhill £80,000 o gymorth. Agorwyd canolfan i deuluoedd a meddygfa gwbl gyfoes gwerth £2m yng Ngolwg y Mynydd, Mayhill yn 2018. Mae rhagor o fuddsoddiad yn cael ei ddarparu i wella cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau cymunedol.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Ers 20 Mai rydym wedi gweld brwdfrydedd cymuned Mayhill ac ardal Townhill gyfagos yn dod i'r amlwg gyda phreswylwyr yn cefnogi ei gilydd ac yn gweithio gyda'r cyngor a chynghorwyr lleol i fynd i'r afael â rhai o'r materion enbyd.

"Hoffwn ddiolch iddyn nhw, staff y cyngor, ysgolion lleol, yr heddlu ac asiantaethau eraill sydd wedi cefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt ac wedi helpu'r gymuned ehangach i deimlo'n ddiogel."

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.