Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llongyfarchiadau gwresog i Gwnstabl yr Heddlu Anne Overton, un o swyddogion troseddau casineb Heddlu De Cymru, sydd wedi cael Medal yr Heddlu gan y Frenhines yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd i gydnabod ei gwasanaeth nodedig.
Yn y dyfyniad i gyd-fynd â'r cyhoeddiad am y wobr, cafodd Anne, 54 oed, sydd wedi bod yn swyddog troseddau casineb yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ers 2018, ei disgrifio fel swyddog angerddol ac ymroddedig sy'n ymrwymedig i wneud newidiadau cadarnhaol er budd y rhai sy'n dioddef troseddau casineb.
Yn wreiddiol o Bort Talbot, dechreuodd Anne ei gyrfa blismona gyda'r Heddlu Metropolitanaidd yn 1990, cyn trosglwyddo i'w heddlu cartref, Heddlu De Cymru, yn 1998.
Mae'r dyfyniad hefyd yn canmol ei blynyddoedd o waith â nifer o wahanol grwpiau lleiafrifol yn y gymuned ac yn sôn am ei hangerdd a'i hawydd naturiol i ddeall ei chymunedau.
Mae wedi chwarae rhan allweddol mewn nifer o fentrau, gan gynnwys sefydlu grŵp cymorth i ddarparu cymorth iechyd meddwl a chyfleoedd rhwydweithio i bobl drawsryweddol, rhywbeth sydd wedi bod yn werthfawr iawn yn ystod y pandemig; codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, gan gynnwys drwy'r cyfryngau lleol; trefnu sesiynau ymwybyddiaeth i gyflogwyr er mwyn helpu busnesau i ddod yn fwy cynhwysol; a sefydlu menter “No Place for Hate” yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad hiliol mewn gemau pêl-droed.
Mae'n parhau i weithio'n ddiflino i annog dioddefwyr troseddau casineb i roi gwybod am eu profiadau, a meithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng aelodau o'r gymuned a'r heddlu.
Mae hyn i gyd yn golygu bod Anne wedi sefydlu ei hun yn swyddog uchel ei pharch ymhlith arweinwyr cymunedol a grwpiau lleol.
Mewn ymateb i'r wobr, dywedodd Anne:
“Rwyf wrth fy modd – ac yn teimlo ychydig o gywilydd! Rwyf wedi dwli bod yn swyddog yr heddlu a gallu gwneud y swydd yn y gymuned lle cefais fy magu.
“Un o'r prif bethau yr hoffwn eu gwneud yn fy swydd yw annog pobl i roi gwybod i'r heddlu am droseddau casineb, a chael yr hyder i wneud hynny.
“Mae wedi bod yn anrhydedd gallu cwrdd â chynifer o gymunedau ac adeiladu ar y cysylltiadau a oedd eisoes yn bodoli, ac rwy'n teimlo bod gen i gysylltiadau cryf â nifer o grwpiau gwahanol.
“Ond rwyf hefyd wedi bod yn rhan o dîm – mae un peth yn sicr, dydw i ddim yn gweithio ar fy mhen fy hun, ac rwyf wedi cael cymorth gwych gan y bobl o'm cwmpas. Rwy'n teimlo'n falch bod yn rhan o dîm sy'n gwella ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn y gymuned ac yn annog mwy o bobl i roi gwybod amdanynt.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Mae Anne yn swyddog gwych, ac mae ei hymrwymiad i'w gwaith ac i'w chydweithwyr yn ddigymar. Mae'n amlwg ei bod yn uchel iawn ei pharch ymhlith y bobl y mae'n gweithio gyda nhw bob dydd, ac mae ei gwaith wedi arwain yn uniongyrchol at gydberthnasau gwell rhwng ein cymunedau lleol a'r heddlu.
“Mae Anne yn llwyr haeddu'r gydnabyddiaeth hon, ond mae'n amlwg ei bod yn gweithio mor galed ag y mae am ei bod wir am wella bywydau pobl. Rwyf mor falch o swyddogion fel Anne – llongyfarchiadau ar yr anrhydedd wych hon.”
Llongyfarchiadau unwaith eto wrthym i gyd, Anne!
---
Diffinnir trosedd gasineb fel ‘Unrhyw drosedd y mae’r dioddefwr neu unrhyw unigolyn arall yn ystyried ei bod wedi’i hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar ei hil neu hil ganfyddedig; crefydd neu grefydd canfyddedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol canfyddedig; anabledd neu anabledd canfyddedig neu unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn unigolyn sy’n drawsryweddol neu y credir sy'n drawsryweddol.'
Mae mynd i'r afael â throseddau casineb yn flaenoriaeth i ni. Mae troseddau casineb yn gwbl annerbyniol, ac rydym yn eu cymryd o ddifrif. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau cydlyniant cymunedol a chefnogi'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu.
Dylai unrhyw un sy'n dioddef trosedd casineb roi gwybod i ni amdani, gan fod yn hyderus y byddwn yn ei chymryd o ddifrif. Gellir rhoi gwybod am faterion nad ydynt yn rhai brys ar-lein drwy wefan Heddlu De Cymru neu True Vision.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Rydym yn ymrwymedig i amddiffyn ein cymunedau a diogelu'r rhai sy'n agored i niwed. Rydym yn annog unrhyw un sy'n dioddef trosedd casineb neu sy'n dyst i ddigwyddiad sy'n gysylltiedig â chasineb i roi gwybod i ni. Drwy roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, gallwn gymryd camau yn erbyn troseddwyr a rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt i ddioddefwyr.