Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd pedwar o bobl eu dedfrydu i gyfanswm o dros 11 mlynedd yn dilyn ymosodiad ar ddau ddyn ar Heol Windsor, Castell-nedd ar 11 Mawrth eleni.
Dedfrydwyd Ricky Morgan, 25 oed i 10 mlynedd a chwe mis am Niwed Corfforol Difrifol (GBH) a Bwrgleriaeth; dedfrydwyd Dafydd Morgan, 23 oed, i bedwar mis am affräe. Mae'r ddau o Sgwâr Wellfield, Castell-nedd.
Rhoddwyd dedfryd gymunedol i Lauren Carmichael, 25 oed, a chafodd Luke Meredith, 33 oed, ei ddedfrydu i 19 wythnos yn y carchar, wedi'i ohirio am 12 mis. Mae'r ddau o St Catherine’s Close, Castell-nedd ac fe'u cafwyd yn euog o affräe.
Aethpwyd â'r ddau ddyn yr ymosodwyd arnynt i'r ysbyty ag anafiadau cyllell i'w hwyneb nad oeddent yn peryglu bywyd. Ar y pryd, anfonwyd swyddogion arfau tanio i'r ardal rhag ofn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price:
“Achosodd y digwyddiad hwn yng ngolau dydd gryn fraw i'r bobl a oedd yn yr ardal ar y pryd.
“Mae goblygiadau difrifol i gario cyllell. Dyna pam ei bod hi mor bwysig i unrhyw un sy'n meddu ar wybodaeth am droseddau sy'n ymwneud â chyllell yn eu cymuned leol roi gwybod i ni. Mae'n ein helpu i greu darlun gwell o'r ardaloedd penodol y mae angen i ni eu targedu er mwyn cadw pobl yn ddiogel”.
Gallwch roi gwybod am bryderon ynghylch troseddau sy'n ymwneud â chyllell drwy un o'r ffyrdd canlynol: