Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi'i gael yn euog o ddynladdiad Carl Chinnock, a fu farw yn yr ysbyty ag anaf difrifol i'w ben ar 24 Mehefin.
Ymddangosodd Christopher George, sy'n 27 oed ac yn byw yn Heol-y-Berllan, y Pîl, gerbron Llys y Goron Caerdydd ar ôl pledio'n ddieuog.
Clywodd y llys ei fod wedi dyrnu'r dioddefwr 50 oed, nad oedd yn ei adnabod, ar ôl bod yn yfed gyda ffrindiau ym Mhorthcawl gyda'r nos ar 23 Mehefin, 2021.
Tua 11.30pm, roedd y diffynnydd yn cerdded gyda'i ffrindiau ond gadawodd ef nhw i fynd at Carl Chinnock, a glywyd yn gweiddi ym maes parcio Salt Lake.
Dywedodd ei ffrindiau eu bod wedi gweld Chinnock yn syrthio ar ei gefn ac yn taro ei ben ar ôl i Christopher George ei ddyrnu'n galed yn ei wyneb.
Rhedodd y diffynnydd oddi yno ac aeth adref mewn tacsi, gan adael ei ffrindiau i roi cymorth cyntaf nes i'r heddlu a'r parafeddygon gyrraedd.
Clywodd y llys ei fod wedi dweud wrth yrrwr y tacsi, yn ystod y daith yn ôl i'r Pîl, ei fod wedi rhoi ‘slap’ i rywun.
Aethpwyd â Carl Chinnock i Ysbyty Tywysoges Cymru ond ni fu modd ei achub. Roedd wedi dioddef gwaedlif difrifol ar yr ymennydd a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Ar ôl treial a barodd dair wythnos, cafodd y rheithgor Christopher George yn euog o ddynladdiad a chaiff ei ddedfrydu ar 7 Ionawr (2022).
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis:
“Mae teulu a ffrindiau Carl wedi ei golli oherwydd trais Christopher George. Gwyddom o siarad â thystion fod y diffynnydd wedi bod yn yfed alcohol ac yn cymryd cyffuriau a'i fod allan yn chwilio am drwbl y noson honno.
“Fel y mae'r achos hwn yn ei brofi, gall dyrnu rhywun unwaith fod yn ddigon i'w ladd – mae unrhyw un sy'n credu ei bod hi'n iawn cyflawni trais o'r fath yn erbyn person arall yn mentro â bywyd ei ddioddefwr ac, wrth gwrs, ei fywyd ei hun.
“Newidiodd bywyd Christopher George mewn ennyd y noson honno, ond collodd ei ddioddefwr, Carl Chinnock, ei fywyd yn ddiangen. Rwy'n cydymdeimlo o waelod calon â theulu a ffrindiau Carl heddiw.”