Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Swyddogion Heddlu De Cymru a Gwent fydd y cyntaf yn y DU i ddatblygu a defnyddio technoleg i adnabod unigolion y mae'r heddlu'n awyddus i'w dal yn y fan a'r lle, a hynny drwy ap adnabod wynebau newydd ar eu ffonau symudol.
Bydd yn galluogi swyddogion i gadarnhau manylion unigolyn dan amheuaeth y mae'r heddlu yn awyddus i'w ddal ar unwaith, hyd yn oed os bydd yr unigolyn yn rhoi manylion ffug neu gamarweiniol. Bydd hyn yn sicrhau y gallant ei arestio yn ddi-oed. Bydd yn hawdd datrys achosion o gam-adnabod unigolion, heb fod angen mynd i orsaf yr heddlu na'r ddalfa.
Yn ystod y cam profi, a fydd yn para 3 mis, bydd yr ap - sef 'Operator Initiated Facial Recognition' - yn cael ei ddefnyddio i ddechrau gan 70 o swyddogion Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Mark Travis:
“Mae'r ap newydd hwn yn golygu y bydd yn hawdd ac yn gyflym i swyddogion, drwy gymryd un ffotograff a gaiff ei gymharu â chronfa ddata'r heddlu, ateb y cwestiwn 'Ai chi yw'r unigolyn rydym yn chwilio amdano?'. Wrth ddelio ag unigolyn o ddiddordeb yn ystod eu patrolau yn ein cymunedau, gall swyddogion gael gafael ar wybodaeth ar unwaith a fydd yn eu galluogi i wybod ai'r unigolyn y maen nhw wedi'i stopio yw'r unigolyn y mae angen iddynt siarad ag ef, heb orfod dychwelyd i orsaf yr heddlu.
"Rwyf am bwysleisio nad yw'r dechnoleg newydd hon yn disodli dulliau traddodiadol o adnabod pobl ac y bydd ein swyddogion yr heddlu ond yn defnyddio'r dechnoleg newydd hon mewn achosion pan fydd yn angenrheidiol ac yn gymesur iddynt wneud hynny. Y nod, fel bob amser, fydd cadw'r unigolyn hwnnw, neu'r cyhoedd yn ehangach, yn ddiogel.
Mae adnabod wynebau yn un o'r datblygiadau technolegol sy'n cael eu defnyddio ledled heddluoedd De Cymru a Gwent gyda'r nod o wneud gwaith swyddogion yr heddlu yn haws ac yn gyflymach, er mwyn iddynt gael mwy o amser i weithio ar gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Ian Roberts:
"Mae manteisio ar dechnoleg ac arloesedd yn rhan bwysig o blismona a'r ffordd rydym yn parhau i gadw pobl yn ddiogel. Bydd yr ap ffonau symudol newydd hwn yn adnodd gwerthfawr i helpu swyddogion i adnabod pobl sy'n agored i niwed neu ar goll, gan arbed amser a dod ag anwyliaid yn ôl at ei gilydd yn gynt.
"Gall yr adnodd hwn hefyd adnabod unigolyn sy'n anymwybodol neu wedi'i anafu'n ddifrifol ac yn methu â dweud pwy ydyn nhw. Drwy ddefnyddio'r dechnoleg hon, rydym yn atal niwed, yn helpu pobl mewn angen ac yn cadw ein cymunedau'n ddiogel.
Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
"Rwy'n craffu'n agos ar benderfyniadau gweithredol ar gyflwyno technoleg ac yn sicrhau goruchwyliaeth a chraffu annibynnol ar bob cam newydd, oherwydd y pryderon moesegol a chymdeithasol a fynegwyd am y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau. Mae pobl am wybod nad yw aelodau o'r cyhoedd nad ydynt wedi gwneud dim o'i le yn wynebu goruchwyliaeth amhriodol, a sicrhau y caiff eu preifatrwydd ei barchu a'i ddiogelu'n llawn. Fodd bynnag, mae pobl hefyd am i ni eu cadw'n ddiogel ac i ddefnyddio'r dechnoleg i ddal pobl sydd wedi cyflawni troseddau difrifol, a'u tynnu oddi ar y strydoedd. O ganlyniad i'n systemau craffu a herio cadarn, gallaf sicrhau'r cyhoedd ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir. Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu hawliau dynol yn ogystal â chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
"Mae'n bwysig cofio bod swyddogion yr heddlu bob amser wedi gallu adnabod unigolyn y mae'r heddlu yn awyddus i'w ddal mewn cysylltiad â throsedd, a'i stopio ar y stryd. Y gwahaniaeth gyda'r dechnoleg hon yw cyflymder a chywirdeb y broses o adnabod ac arestio'r unigolyn, a chyflymder y broses o ryddhau unigolyn nad yw'r heddlu eisiau siarad ag ef.”
Uned Cyfryngau Heddlu De Cymru
[email protected]
01656 869291
Cyfathrebu Corfforaethol Heddlu Gwent
[email protected]
01633 647018