Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod dyn 54 oed yr ymosodwyd arno ym Mharc Bute, Caerdydd, fis diwethaf wedi marw.
Roedd Gary Jenkins o Fae Caerdydd wedi bod mewn cyflwr difrifol ers y digwyddiad yn ystod oriau mân bore dydd Mawrth, 20 Gorffennaf, a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ddydd Iau 5 Awst.
Fe'i disgrifiwyd gan ei deulu fel tad, gŵr a brawd annwyl.

Mae ei deulu, sy'n parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol, wedi rhyddau'r datganiad canlynol.
“Rydym yn torri ein calonnau wrth gyhoeddi marwolaeth annhymig Dr Gary Jenkins, a oedd yn dad annwyl i ddwy ferch hyfryd.
“Bu'n byw ei fywyd yn hapus gyda chariad, cerddoriaeth, creadigrwydd ac ymroddiad i'w broffesiwn.
“Gofynnwn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Mae tri unigolyn wedi’u cyhuddo o ymgais i lofruddio ac nid yw'r ditectifs yn chwilio am neb un arall mewn cysylltiad â’r ymosodiad ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, sef y Ditectif Brif Arolygydd Dros Dro Stuart Wales o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru:
“Rydym yn ymwybodol o farwolaeth drist Dr Gary Jenkins ac rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn.
“Rydym mewn cysylltiad â Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chrwner EM mewn perthynas â'i farwolaeth, a bydd y mater yn symud yn ei flaen fel ymchwiliad i lofruddiaeth.
“Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cymorth gwerthfawr wrth i ni barhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad hwn.
“Er bod y tri unigolyn wedi'u cyhuddo, rydym yn apelio am wybodaeth o hyd. Ni waeth pa mor ddibwys yw'r wybodaeth i bob golwg, gallai fod yn hanfodol i'n hymchwiliad.
“Hoffem yn arbennig glywed gan unrhyw un a oedd ym Mharc Bute yn ystod oriau mân bore dydd Mawrth, 20 Gorffennaf.
“Yn benodol, rydym am siarad ag unrhyw un a oedd yn agos at bont droed y Mileniwm, sy'n cysylltu Parc Bute â Gerddi Sophia, rhwng hanner nos ac 1.20am.”
Mae Jason Edwards, sy'n 25 oed, a Lee William Strickland, sy'n 36 oed, ill dau o Gaerdydd, a merch 16 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cael eu cadw yn y ddalfa a byddant yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 23 Awst.
Gellir cyflwyno unrhyw wybodaeth neu ddeunydd fideo a allai helpu'r ymchwiliad gan ddefnyddio porth ar-lein https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B34-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r dulliau canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad *254215.
Ewch i: https://bit.ly/HDCDarparuGwyb
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
E-bostiwch: [email protected]
Ffoniwch: 101
Gallwch hefyd gyflwyno gwybodaeth i Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.