Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol o'r effaith y mae beiciau oddi ar y ffordd yn ei chael ar gymunedau ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym yn rhannu pryderon y bydd rhywun yn cael ei anafu ac rydym yn deall y gall y sŵn effeithio ar ansawdd bywyd trigolion.
Cynhaliwyd nifer o ymgyrchoedd gyda thîm oddi ar y ffordd Cyngor Caerdydd yn barod yr haf hwn a bydd y rhain yn parhau.
Mae cyfeiriad e-bost penodedig, sef [email protected] ar gael i'r cyhoedd roi gwybodaeth nad yw'n frys am ddefnydd anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol o feiciau oddi ar y ffordd.
Dywedodd yr Arolygydd Jeff Lewis, o Heddlu De Cymru:
“Gwyddom ei bod yn broblem fawr i'r gymuned. Rydym yn pryderu y gallai rhywun gael niwed gan y beiciau hyn, sy'n cael eu goryrru a hefyd y sŵn, sy'n amharu ar ansawdd bywyd trigolion.
"Y peth olaf rydym ei eisiau yw cael ein galw i safle gwrthdrawiad traffig ffyrdd lle mae plentyn wedi cael ei niweidio neu rywbeth gwaeth.
"Yn ogystal â diogelwch personol a'r agweddau ar niwsans sŵn, mae'r gyrwyr yn cyflawni troseddau traffig ffyrdd, megis gyrru heb yswiriant neu MOT bob tro y maent ar y ffordd.”
Mae'r troseddwyr hefyd yn wynebu'r risg o golli eu cartrefi oherwydd gallai'r ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon hyn arwain at achos o dorri eu cytundeb tenantiaeth gyda'r awdurdod lleol neu'r gymdeithas dai.
Ychwanegodd yr Arolygydd Lewis:
"Byddem yn annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw feiciau oddi ar y ffordd drwy e-bostio [email protected].
"Y gymuned yw ein llygaid a'n clustiau, ac os gallant ddweud wrthym pwy sy'n gyfrifol am niwsans gyrru beiciau oddi ar y ffordd ac os bydd problemau, gallwn sicrhau bod ein swyddogion yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.
“Byddwn yn gweithredu ar sail gwybodaeth a dderbynnir drwy e-bost Ymgyrch Red Mana ac, os bydd angen, yn atafaelu beiciau o gyfeiriadau cartref yn ddiweddarach.”
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.