Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:11 02/08/2021
Mae ditectifs yn parhau i ymchwilio i farwolaeth bachgen pump oed yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd ei enwi fel Logan Mwangi, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, o Sarn.
Mae'r tri unigolyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad, sef dyn 39 oed, menyw 30 oed, a bachgen 13 oed, yn y ddalfa o hyd.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r Tîm Troseddau Mawr yn uniongyrchol drwy'r porth cyhoeddus hwn https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B36-PO1 neu fel arall drwy ddefnyddio un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100268674.