Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu sy'n chwilio am ddyn o Abertawe a aeth ar goll yn chwilio mewn eiddo a'r ardal gyfagos yn ardal Townhill o'r ddinas.
Mae pryder cynyddol am les Paul Thomas, sy'n 58 oed o Dregŵyr, y rhoddwyd gwybod ei fod ar goll ar 8 Gorffennaf.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Jones, o Adran Ymchwiliadau Troseddol Abertawe:
“Mae ymholiadau helaeth i ddiflaniad Paul wedi bod yn mynd rhagddynt ers y rhoddwyd gwybod ei fod ar goll dros fis yn ôl.
“Mae gan Paul gysylltiadau ag ardal Townhill ac mae chwiliad fforensig yn cael ei gynnal yn Gomer Road er mwyn helpu i ddod o hyd i unrhyw gliwiau ynghylch ble y gallai fod.
“Ymchwiliad i unigolyn coll yw hwn o hyd ac rydym yn parhau i gadw meddwl agored o ran yr hyn sydd wedi digwydd rhwng nawr a phan welwyd Paul ddiwethaf.
“Mae un fenyw yn ein helpu gyda'n hymholiadau a byddem yn apelio at unrhyw un arall sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
“Hoffem ddiolch i'r bobl yng nghymuned Gomer Road am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth wrth i ni gynnal chwiliadau.”
Gofynnir i unrhyw un sydd wedi gweld Paul neu sydd â gwybodaeth am ei leoliad gysylltu â ni drwy un o'r dulliau canlynol, gan ddyfynnu cyfeirnod 2100239045.
• Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
• Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
• E-bostiwch: [email protected]
• Ffoniwch: 101