Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 66 oed wedi cael ei gyhuddo o achos o dreisio gan ddieithryn yng Nghaerdydd 41 mlynedd yn ôl.
Cafodd Roland Long ei arestio ar 15 Medi 2020, a chafodd ei gyhuddo wythnos diwethaf ar 3 Awst 2021. Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar 27 Awst 2021.
Cafodd ei arestio yn dilyn ymchwiliad gan Uned Adolygu Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru i ddigwyddiad yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd ym mis Awst 1980.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Miles, sef pennaeth Uned Adolygu Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru:
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ymchwilio i droseddau difrifol heb eu datrys, a byddwn yn aml yn ailedrych ar achosion wrth i wyddoniaeth fforensig ddatblygu.
“Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i bob dioddefwr trais rhywiol, a byddwn yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod i'r heddlu.”
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r uned – o dan yr enw Ymgyrch Dudley – wedi bod yn ymchwilio i droseddau rhywiol difrifol heb eu datrys ledled De Cymru sy'n dyddio'n ôl sawl degawd.
Mae'r uned wedi'i chydnabod yn genedlaethol ac wedi arloesi ym maes technegau ymchwilio i achosion heb eu datrys o'r blaen.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2000241680.