Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:36 31/08/2021
Mae’r dyn 71 oed a fu farw ar ôl i’r Ford Fiesta roedd yn ei yrru fod mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Clasemont, Treforys, Abertawe, wedi cael ei enwi fel John Robertson, o Blas-marl, Abertawe.
Mae ffrind a phartner John, Maggie Cornelius, wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:
“Bydd ffrind a phartner hirdymor John, Maggie, ei frawd David, ei chwaer-yng-nghyfraith Jill, nai John, Alex a'i wraig Amber a'i orneiaint Miles a James sy'n byw yn UDA, yn gweld eisiau John yn fawr. Yn ogystal â theulu Maggie yma yng Nghymru.
"Roedd gan John lawer o ddiddordebau ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar ôl iddo ymddeol fel nyrs yn Uned Therapi Dwys ysbyty Treforys, bu'n gwirfoddoli gydag RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberdulais a GGATT yn Abertawe.
"Treuliodd flynyddoedd lawer yn y Sgowtiaid yn teithio, cerdded a dringo ledled y byd – gan gynnwys Copa Mera a Gwersyll Cychwyn Everest.
"Cafodd gyfnod yn yr ysbyty eleni, ond buan y llwyddodd i ailgychwyn ei weithgareddau.
"Mae sioc ei farwolaeth sydyn wedi peri dryswch a thristwch i bob un ohonom.”
Mae swyddogion yn parhau i apelio am unrhyw dystion a allai fod wedi bod yn yr ardal ar yr un adeg neu sydd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol am y gwrthdrawiad.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth neu ddeunydd fideo o gamera dashfwrdd a allai helpu gyda'r ymchwiliad, cysylltwch â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 2100305521.