Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:25 02/08/2021
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod tri unigolyn wedi cael eu harestio yn dilyn adroddiadau am bryderon ynghylch bachgen pump oed a oedd ar goll yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, a dod o hyd i gorff yn Afon Ogwr ger Parc Pandy.
Mae dyn 39 oed, menyw 30 oed a bachgen 13 oed o ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac maent yn y ddalfa ar hyn o bryd. Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r Tîm Troseddau Mawr yn uniongyrchol drwy'r porth cyhoeddus hwn https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B36-PO1 neu fel arall drwy ddefnyddio un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100268674.