Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gyrrwr a fu farw ar ôl i'r Vauxhall Insignia roedd yn ei yrru fod mewn gwrthdrawiad un cerbyd yn Fforest-fach, Abertawe, wedi cael ei enwi fel Christopher Montenegro, 36 oed, o Fforest-fach.
Mae gwraig Christopher wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:
“Chris, yr oedd y rhan fwyaf o bobl yn ei adnabod fel ‘Monty’, oedd fy ngŵr, fy ffrind gorau a fy enaid hoff cytûn.
“Alla i ddim dweud wrthych chi pa mor anhygoel ac arbennig oedd e.
“Roedd yn fab, yn frawd, ac yn bwysicach oll, yn dad i'n dau blentyn hyfryd ac ni fydd bywyd byth yr un peth hebddo.
“Roedd ganddo gymaint o ffrindiau a phobl o gwmpas a oedd yn ei garu. Roedd wrth ei fodd yn rhedeg ac yn heicio, ac roedd yn ddyn mor ffit. Roedd yn gefn i mi a'r unigolyn roeddwn i'n troi ato, gan ei fod yn gwybod beth i'w wneud bob amser.
“Bydd yn rhaid i mi ganfod y cryfder i barhau hebddo rywsut.
“Yn olaf, fel teulu hoffem ddiolch o waelod calon i'r holl wasanaethau brys a aeth i'r safle a cheisio helpu.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 3.50am ddydd Sul 1 Awst 2021, ar y gyffordd rhwng Ffordd y Brenin a Heol Caerfyrddin, Fforest-fach, Abertawe.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw dystion a allai fod wedi teithio drwy'r ardal yn y munudau ar ôl y gwrthdrawiad, neu unrhyw dystion i'r ffordd roedd Vauxhall Insignia du yn cael ei yrru.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth neu ddeunydd fideo o gamera dashfwrdd a allai helpu gyda'r ymchwiliad, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu cyfeirnod 2100269726.