Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
23:55 04/08/2021
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Logan Mwangi, a oedd yn bump oed, o Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhuddo tri unigolyn.
Mae John Cole, 39, o Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae John Cole, Angharad Williamson, 30 oed, sydd hefyd o Sarn, a bachgen 13 oed wedi cael eu cyd-gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r tri unigolyn yn cael eu cadw yn y ddalfa a byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau, 5 Awst.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea, yr Uwch Swyddog Ymchwilio: “Mae'r achos hwn yn achos hynod anodd i bawb sy'n rhan ohono, a hoffwn estyn fy nghydymdeimladau dwysaf i deulu a ffrindiau Logan.
“Mae'r ymchwiliad hwn yn un trylwyr a sensitif gan y Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr, ac rwy'n ddiolchgar i'r gymuned leol am ei chefnogaeth a'i dealltwriaeth wrth i ni barhau i gasglu tystiolaeth mewn nifer o leoliadau.
“Mae achosion cyfreithiol bellach ar waith, a hoffwn atgoffa pawb y dylid osgoi gwneud unrhyw dybiaethau a allai gael effaith andwyol ar yr ymchwiliad hwn.
“Rydym yn parhau i apelio at unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth mewn perthynas â'r digwyddiad i gysylltu â'r Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr.”
Cysylltwch â Heddlu De Cymru yn uniongyrchol drwy'r porth cyhoeddus hwn https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B36-PO1
Fel arall, gallwch ddefnyddio un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu cyfeirnod 2100268674.
• Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
• Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
• Drwy e-bost: [email protected]
• Ffoniwch: 101