Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddog a deimlodd fod dyletswydd arni i aberthu ei diwrnod gorffwys i ymuno â'r ymdrechion i ddod o hyd i bensiynwr a oedd wedi bod ar goll ers dros 24 awr – ac a ddaeth o hyd iddo hanner awr yn ddiweddarach – wedi dweud mai ‘dim ond cyflawni ei dyletswydd’ oedd hi.
Roedd PC Amy Rowlands, sydd ar secondiad i Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu ar hyn o bryd, wedi bod ar sifft ddydd Sadwrn diwethaf (14 Awst) pan ddechreuodd ymdrechion i ddod o hyd i ddyn 85 oed o Borthcawl a oedd ar goll.
Pan orffennodd y swyddog ei sifft, roedd y dyn agored i niwed yn dal ar goll ac, ar ôl gorffwys am ychydig ar ôl gweithio drwy'r nos, dywedodd nad oedd yn gallu anwybyddu'r teimlad y gallai ddod o hyd iddo o bosibl.
Ar sail ei greddf, a rhai sylwadau mewn ymateb i apêl Heddlu De Cymru ar Facebook ei fod wedi cael ei weld o bosibl, aeth PC Rowlands â'i beic i Borthcawl. Drwy ddilyn Google Maps, a'i greddf, llwyddodd i ddod o hyd i'r dyn tua hanner awr yn ddiweddarach.
Dywedodd PC Rowlands:
“Pan ddeffrais ar ôl fy sifft nos, roeddwn i wir yn gobeithio y byddai'r dyn wedi cael ei ddarganfod am ei fod wedi bod ar goll am oriau a thrwy'r nos.Doeddwn i ddim yn gallu stopio meddwl amdano ac roeddwn i'n gallu gweld bod llawer o bobl yn pryderu amdano yn y sylwadau ar apêl Heddlu De Cymru ar Facebook.
“Sylwais fod rhywun wedi dweud ei bod wedi ei weld, ac roedd yn ymddangos yn sicr o hynny. Dydw i ddim yn gyfarwydd â Phorthcawl o gwbl felly chwiliais am y lleoliad ar Google Maps a phenderfynais fynd yno. Dywedais wrth fy mhlant fod angen i mi fynd i helpu i ddod o hyd i dad-cu rhywun.
“Roeddwn i'n gwybod bod ymdrech gydgysylltiedig anferth yn mynd rhagddi ond doeddwn i ddim yn gallu anwybyddu'r teimlad y gallwn i ddod o hyd iddo o bosibl.”
Gan ddefnyddio map ar ei ffôn ac amcan greddfol na fyddai'r dyn wedi gwyro oddi ar lwybr penodol oni bai ei fod ar gau, dilynodd PC Rowlands ei greddf. Yn y pen draw, cyrhaeddodd ardal o dyfiant ar ochr y ffordd lle y sylwodd ar lethr serth 15 troedfedd o uchder. Gan synhwyro y gallai fod gerllaw, dechreuodd weiddi enw'r dyn.
“Roedd hi'n rhy beryglus i mi chwilio'r llethr felly dechreuais weiddi ac, yn sydyn, gwelais ben yn symud a chlywais lais tawel. Teimlais ruthr o adrenalin a chefais fy llethu gan emosiwn.
“Ffoniais 999, ac roeddwn i'n ysu am gael eistedd gydag ef, ond rheol gyntaf Cymorth Cyntaf yw sicrhau nad ydych chi eich hun yn cael eich anafu, ac roeddwn i hefyd yn gwybod, pe bawn i'n mynd i lawr y llethr, na fyddai modd fy ngweld i o'r ffordd chwaith.
“Roeddwn i wrth fy modd pan gyrhaeddodd car traffig o fewn munudau, ac yna'r Timau Cymorth Tiriogaethol a ddaeth â'r holl offer roedd ei angen i achub y dyn. Roedd yn gymaint o ryddhad i bawb ac roedd y timau a gyrhaeddodd i gyd yn anhygoel.
“Roedd yn anodd iawn iddynt ei achub o'r llethr ac fe gymerodd gryn dipyn o amser, ond roedd yn rhaid i mi aros i sicrhau ei fod yn mynd i mewn i'r ambiwlans a'i fod yn ddiogel. Daeth aelodau o'i deulu yno hefyd ac roeddent mor ddiolchgar i bawb a oedd yno. Gwnaethant fy nghofleidio a diolch i mi, ond dim ond balch o gael bod yn rhan o'r ymdrech gymunedol anferth hon oeddwn i.
“Nid dim ond i fi y mae'r diolch – gweithiodd y tîm chwilio ddydd a nos gan wneud gwaith anhygoel, a dim ond un rhan fach o gymuned fawr ofalgar oeddwn i.
“Mae'r adborth cadarnhaol wedi bod yn swreal ond mor hyfryd. I mi, dim ond cyflawni fy nyletswydd oeddwn i – yr hyn y byddwn i'n ei wneud fel arfer. Ond roeddwn i'n digwydd bod ar feic yn hytrach na mewn hofrennydd, ac roedd hi'n ddiwrnod gorffwys i mi yn hytrach na diwrnod gwaith.”