Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:00 09/08/2021
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i achos o drywanu y tu allan i Westy Ibis ym Mhorth Caerdydd wedi cyhuddo dyn o ymgais i lofruddio.
Mae Sennan Graham-Ahearne, sy'n 22 oed ac o Ddyfnaint, yn cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (dydd Llun, 9 Awst).
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwesty tua 11am ddydd Sadwrn, 7 Awst.
Mae dyn 64 oed o Ddyfnaint yn dal i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Anogir unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *277240.
Ewch i: https://bit.ly/HDCDarparuGwyb
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
E-bostiwch: [email protected]
Ffoniwch: 101